Newyddion S4C

‘Arswydus’: Carchar i ddyn am dreisio plentyn sawl gwaith yn y 90au

23/01/2024
Stefan Farbrother

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i 18 mlynedd mewn carchar ar ôl cyfres o ymosodiadau rhywiol ar blentyn yn y 90au.

Roedd yr ymosodiadau yn cynnwys caethiwo’r plentyn â gefynnau a dal cyllell at ei wddf.

Roedd rheithgor wedi dyfarnu bod Stefan Farbrother yn euog o gyfres o droseddau gan gynnwys saith achos o dreisio dros gyfnod o bum mlynedd.

Cafodd Heddlu Sir Caint wybod am y troseddau yn 2018 ac fe gafodd ei arestio ym mis Mehefin y flwyddyn honno.

Cafodd ei gyhuddo o 13 o droseddau yn ymwneud â digwyddiadau rhwng 1991 a 1997.

Roedd y dyn 47 oed o Stanningley Road, Halifax, Sir Gorllewin Efrog wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Maidstone ym mis Hydref y llynedd ei fod yn euog o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

‘Dewr’

Dywedodd y Ditectif Ringyll Adam Ferguson ei fod yn dangos nad oedd hi “byth yn rhy hwyr i roi gwybod am droseddau rhyw”.

“‘Fe wnaeth Farbrother dargedu’r dioddefwr dros gyfnod o flynyddoedd lawer,” meddai.

“Fe gyflawnodd ymgyrch arswydus o gam-drin, gan ddefnyddio trais a bygythiadau a oedd yn cynnwys caethiwo'r unigolyn â gefynnau a dal cyllell i’w wddf.

“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwr, sydd wedi bod yn hynod ddewr wrth ddod ymlaen a rhoi tystiolaeth. 

“Mae'r gamdriniaeth wedi cael effaith drychinebus ar fywyd y plentyn sydd bellach yn oedolyn, ond rwy'n gobeithio y gallant symud ymlaen yn awr,  o wybod y bydd Farbrother yn treulio cyfnod hir yn y carchar. 

“Ry’n ni’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i gysylltu â’r heddlu. Nid yw fyth yn rhy hwyr i adrodd am drosedd rywiol. 

“Fe fyddwn ni yn eich credu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.