Gwrthod galwadau i ddarlledu'r Chwe Gwlad ar sianeli di-dâl yn unig
Mae galwadau i ddarlledu gemau'r Chwe Gwlad ar sianeli di-dâl yn unig wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU.
Daw'r penderfyniad yn dilyn pwysau gan ASau o Gymru i ychwanegu gemau'r bencampwriaeth i restr o chwaraeon sydd y cael eu cyfyngu i'w darlledu ar sianeli di-dâl.
Caiff y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu gwarchod ar gyfer sianeli di-dâl yn unig eu hadnabod fel rhestr 'Grŵp A'.
Ar y rhestr yma mae Cwpan y Byd pêl-droed, rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, y Gemau Olympaidd a rowndiau terfynol Wimbledon - ond ni fydd y Chwe Gwlad yn cael eu cynnwys.
Mae grŵp trawsbleidiol o ASau ar y Pwyllgor Materion Cymreig wedi dweud eu bod wedi eu siomi gyda phenderfyniad Llywodraeth Prydain i wrthod eu cais, ond dywedodd Llywodraeth y DU fod y trefniadau presennol "yn gweithio'n dda er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau".
'Colled'
Ym mis Hydref eleni fe wnaeth aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig alw am gynnwys y Chwe Gwlad yng Ngrŵp A y Gyfundrefn Digwyddiadau Rhestredig.
Ofer oedd y cais hwn, ac wrth ymateb i'r penderfyniad gan Lywodraeth y DU, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, yr AS Ceidwadol Stephen Crabb. bod rhywbeth "mewn perygl o gael ei golli" i Gymru.
"Er ein bod yn siomedig wrth gwrs nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo bod angen diwygio'r digwyddiadau rhestredig i gynnwys y Chwe Gwlad, mae'r gefnogaeth gyffredinol y mae'n ei chynnig i'r sector ddarlledu yng Nghymru yn cael croeso cynnes," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod bod yna agenda allan yna. Rydyn ni'n gwybod bod yna bobl yn gwthio i'r Chwe Gwlad gael ei farchnata i bwy bynnag sy'n cynnig yr arian mwyaf.
"Rydyn ni ond yn credu bod rhywbeth mewn perygl o gael ei golli yma i'r genedl, o ystyried pwysigrwydd y Chwe Gwlad i'n bywyd cenedlaethol, i'n diwylliant a'n treftadaeth."
Llun: Asiantaeth Huw Evans