Yr Oscars: Pwy sy'n debygol o gael eu henwebu eleni?
Bydd enwebiadau ar gyfer gwobrau'r Oscars yn cael eu cyhoeddi brynhawn dydd Mawrth, ond pa ffilmiau, actorion a chyfarwyddwyr sydd yn debygol o ennill y prif wobrau eleni?
Roedd 2023 yn flwyddyn fawr i fyd y sinema, ac mae disgwyl i ffilmiau Barbie ac Oppenheimer gael eu henwebu ar gyfer nifer o wobrau pan fydd y rhestr yn cael ei chyhoeddi am 13:30.
Mae disgwyl hefyd i Poor Things, The Holdovers a Killers of the Flower Moon ennill nifer o enwebiadau.
Cillian Murphy, Emma Stone, Robert Downey Jr a Da'Vine Joy Randolph yw rhai o'r enwau sydd wedi cael eu crybwyll ar gyfer yr enwebiadau am actio.
Eleni mae'r gwobrau'n cael eu cynnal yn hwyrach, a hynny o ganlyniad i ryddhau Barbie ac Oppenheimer yn hwyr yn y flwyddyn y llynedd.
Bydd Jimmy Kimmel yn cynnal y seremoni wobrwyo o Los Angeles ar 10 Mawrth.
Ffilm orau
Ar ôl newid y rheolau ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r bwriad o "ehangu'r maes", mae gan y categori ffilm orau bellach 10 enwebiad.
Mae'n debyg y bydd Oppenheimer, Barbie, Poor Things, Killers of the Flower Moon a The Holdovers i gyd yn cael eu henwebu.
Mae Anatomy of a Fall, Maestro, The Zone of Interest, Past Lives ac American Fiction hefyd yn cael eu hystyried yn ffefrynnau ac yn debygol iawn o gystadlu am y wobr fawreddog.
Actorion
Y ceffyl blaen ar gyer yr actor gorau yw Paul Giamatti ar gyfer The Holdovers, ffilm sy'n ei weld yn chwarae rhan athro sy'n gorfod aros yn yr ysgol dros y Nadolig i oruchwylio disgyblion sydd ddim yn mynd adref dros y gwyliau.
Mae Cillian Murphy hefyd yn y ras am ei bortread o J Robert Oppenheimer, tra y gallai Bradley Cooper gael ei gydnabod am ei berfformiad fel y cyfansoddwr Leonard Bernstein ym Maestro.
Ymhlith y cystadleuwyr posib eraill ond ychydig yn llai tebygol o ddod i'r brig mae seren Killers of the Flower Moon, Leonardo DiCaprio, Zac Efron o The Iron Claw, Barry Keoghan o Saltburn, ac Andrew Scott yn All of Us Strangers.
Yng nghategori'r actores orau mae'n debyg y bydd Lily Gladstone yn cael ei henwebu am ei rôl yn Killers of the Flower Moon.
Mae bron yn sicr y bydd seren Poor Things, Emma Stone, yn cael ei henwebu am ei pherfformiad yn y ffilm honno.
Fe all Margot Robbie gael ei hwnewbu am ei rhan yn Barbie, yn ogystal â seren Past Lives, Greta Lee am ei rôl fel menyw sy’n ailgysylltu â chariad ei phlentyndod.
Cyfarwyddwyr
Roedd sawl un o enwau mawr yr Oscars wedi rhyddhau ffilmiau eleni, a byddant bron yn sicr yn ymddangos yn y categori hwn - gan gynnwys Martin Scorsese ar gyfer Killers of the Flower Moon, a Christopher Nolan ar gyfer Oppenheimer.
Gallai fod cydnabyddiaeth hefyd i Greta Gerwig am Barbie, Jonathan Glazer am The Zone of Interest ac Yorgos Lanthimos am Poor Things.
Llun: PA