Newyddion S4C

Beirniadaeth hallt o strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru

23/01/2024
S4C

Gyda bron i draean plant Cymru yn byw mewn tlodi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Strategaeth Tlodi Plant newydd.

Y nod meddai'r llywodraeth yw mynd i'r afael â gwella cyfleoedd i blant sy'n byw mewn amgylchiadau anodd. 

Ond mae Swyddfa'r Comisiynydd Plant a nifer o sefydliadau eraill wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn beirniadu'r strategaeth gan gyhuddo Gweinidogion o "beidio gwrando ar eu galwadau." 

Wrth lansio'r strategaeth newydd, dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio "pob pŵer sydd ganddi wrth weithio gyda sefydliadau eraill i wneud tlodi plant yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru dros y degawd nesaf."

Ychwanegodd: "Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud." 

Mae mwy na 3,000 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi helpu i greu'r Strategaeth Tlodi Plant.

Mae pum amcan hirdymor i'r strategaeth:

  • Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.
  • Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • Sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol. 

 

Wrth ymateb i'r strategaeth, mewn datganiad  ar y cyd, dywedodd Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ac 14 o elusennau a sefydliadau gwarchod plant yn cynnwys NSPCC Cymru, Achub y Plant ac Oxfam Cymru, fod y strategaeth yn hynod o siomedig: 

"Fel sefydliadau hawliau plant, a llawer ohonym hefyd yn aelodau o grŵp Cyfeirio Allanol y Llywodraeth ar gyfer y strategaeth, rydym yn siomedig iawn nad yw Gweinidogion wedi gwrando ar ein galwadau am gynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy. 

"Er ein bod yn croesawu y ffaith bod y Llywodraeth yn cyfeirio yn uniongyrchol at hawliau plant a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn y strategaeth ddiwygiedig hon, mae agwedd sylfaenol ar goll sef atebolrwydd."

Amserlen

Mae'r sefydliadau hefyd yn pryderu am amserlen y strategaeth: 

"Rydym wedi cael addewid o fframwaith monitro, ond nid ydym wedi cael unrhyw syniad pryd y bydd hwn ar waith na beth fydd yn ei gynnwys. Tan hynny, ni fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio mor ddifrifol."

Pan luniodd Llywodraeth Cymru strategaeth ddrafft ar sut i fynd i'r afael â thlodi plant, dywedodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd fod y strategaeth honno yn dangos "diffyg uchelgais".

Yn ôl y pwyllgor, rhwng 2019 a 2022, roedd 28% o blant Cymru yn byw mewn cartrefi ble roedd incwm yr aelwyd yn llai na 70% o'r cyfartaledd ar draws y DU.

Mae'r gyfradd yn uwch yng Nghymru o gymharu â Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.