Galw i golli gemau pêl-droed pan mae cefnogwyr yn hiliol
Mae pennaeth FIFA y corff rhyngwladol sy’n llywodraethu pêl droed wedi galw am waharddiadau byd eang i gefnogwyr sy’n cam-drin chwaraewyr yn hiliol yn ystod gemau.
Dywedodd Gianni Infantino y dylai unrhyw dîm sydd â chefnogwyr sy’n ymddwyn mewn modd hiliol golli’r gêm honno yn awtomatig.
Daw ei sylwadau yn dilyn digwyddiadau yn Sheffield Wednesday ac ar faes Udinese yn yr Eidal ddydd Sadwrn.
Dywedodd fod y digwyddiadau yn “ffiaidd”.
Fe gafodd buddugoliaeth AC Milan yn Udinese ei hatal am gyfnod yn dilyn ymddygiad hiliol honedig cefnogwyr y tîm cartref tuag at olwr Milan Mike Maignan.
Dywedodd chwaraewr Cofentri Kasey Palmer ei fod ef wedi derbyn triniaeth debyg yn Hillsborough.
Llun; X/AC Milan