Newyddion S4C

Rhybudd am gynnydd bygythiad terfysgaeth yn sgil rhyfel Israel-Gaza

20/01/2024
Matt Jukes

Mae un o swyddogion heddlu mwyaf blaenllaw y DU wedi rhybuddio fod cynnydd yn y bygythiad o derfysgaeth ers i ryfel Israel a Gaza gychwyn.

Dywedodd comisiynydd cynorthwyol Heddlu’r Met yn Llundain, Matt Jukes ei fod yn “anodd cofio byd mwy ansefydlog, peryglus ac ansicr” a bod Prydain wedi wynebu’r “cyfnod mwyaf dwys ers y Rhyfel Oer” yn 2023.

Dywedodd Mr Jukes fod cynnydd o 25% o gudd-wybodaeth yn cyrraedd heddlu gwrthderfysgaeth sy’n “gynnydd arwyddocaol ar ein lefelau arferol”.

“Mewn termau syml," meddai Mr Jukes, mae hyn yn golygu rhagor o wybodaeth am derfysgaeth posib yn llifo trwy ein systemau nag mewn blynyddoedd diweddar o adroddiadau ar-lein, adroddiadau cyhoeddus a gan MI5.”

Dywedodd Mr Jukes, sy’n gyn-Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, fod y rhyfel rhwng Israel a Gaza wedi rhoi “egni i’r anghydfod” i eithafwyr Islamaidd.

Ychwanegodd: “Mae digwyddiadau ar draws y byd yn ddieithriad yn cael effaith yn y DU ac yn enwedig mewn ardaloedd dinesig amrywiol ac rydym wedi gweld yn amlwg ofn, pryder, ansicrwydd ac ymateb arwyddocaol ymhlith cymunedau’r DU.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.