Profiad 'emosiynol' Jason Mohammad o gwrdd â'i arwr pêl-droed
Mae’r cyflwynydd Jason Mohammad yn dweud mae’r profiad mwyaf emosiynol iddo erioed ei gael ar gamera oedd cwrdd ag arwr pêl-droed ei blentyndod.
Fe wnaeth Jason gwrdd â chyn-chwaraewr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Dave Bennett, ar raglen S4C, Taith Bywyd.
Yn y rhaglen, mae Jason yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.
Roedd Dave Bennett a’i frawd Gary yn chwarae i Gaerdydd ar ddechrau’r 1980au, ac mae Jason Mohammad yn egluro mai nhw oedd y rheswm iddo syrthio mewn cariad â phêl-droed a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
“Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel i fi," meddai.
"Y profiad mwyaf emosiynol i fi ar y teledu. Dwi’n teimlo fel bachgen bach wyth mlwydd oed yn eistedd fan hyn nesaf at fy arwr pêl-droed cyntaf.
“Dyna pam dwi’n falch o’r clwb pêl-droed yma, does dim ots beth yw eich cefndir, unwaith mae’r chwaraewyr yn gwisgo’r crys glas – Bluebirds forever.
“Mae’r clwb pêl-droed yma yn rhan o fy enaid i. Pan mae pobl yn gofyn, ‘pwy yw’r pêl-droediwr cyntaf ti’n cofio ei wylio a’i garu’, Dave Bennett oedd hwnnw.”
'Torri tir newydd'
Yn ystod y cyfnod yma, Dave Bennett a’i frawd Gary oedd yr unig chwaraewyr du oedd yn chwarae i’r clwb.
Mae Bennett yn egluro fod chwaraewyr du wedi cael eu trin yn wahanol yn y cyfnod hwnnw.
“Roedd hi’n amser anodd i chwaraewyr du yn y cyfnod yna…os nad oeddech chi’n chwarae yn dda, fe fyddwch chi wedi cael clywed.
"Fe fyddai’r dorf yn gadael i fi wybod dipyn yn fwy na dywedwch, y chwaraewr arferol oedd yn wyn.
“Doedden ni ddim yn sylweddoli ar y pryd ein bod ni’n torri tir newydd. Mae pethau wedi newid dipyn ond mae na dipyn o ffordd i fynd eto.”
Bydd Taith Bywyd yn cael ei ddarleddu ar S4C, nos Sul 21 Ionawr am 21.00.