Tata yn cadarnhau y bydd 2,800 o swyddi yn mynd ym Mhort Talbot
Tata yn cadarnhau y bydd 2,800 o swyddi yn mynd ym Mhort Talbot
Mae undebau wedi dweud ei fod yn sefyllfa "warthus" a "hynod siomedig" wedi i gwmni Tata Steel gadarnhau y bydd 2,800 o swyddi yn cael eu colli yng ngwaith dur Mhort Talbot.
Mae'r cwmni wedi penderfynu cau dwy ffwrnais chwyth yng ngwaith dur y dref.
Bydd 300 o swyddi eraill yn mynd yn y dyfodol, gan wrthio'r cyfanswm yn y pen draw dros 3,000.
Mewn datganiad, dywedodd Tata: “Mae Tata Steel wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn dechrau ymgynghoriad statudol fel rhan o’i gynllun i drawsnewid ac ailstrwythuro ei fusnes yn y DU.
“Bwriad y cynllun hwn yw gwrthdroi mwy na degawd o golledion a thrawsnewid o’r ffwrneisi chwyth etifeddol i fusnes dur gwyrdd mwy cynaliadwy.
“Byddai’r trawsnewid yn sicrhau’r rhan fwyaf o allu cynnyrch presennol Tata Steel UK ac yn cynnal hunangynhaliaeth y wlad o ran gwneud dur, tra hefyd yn lleihau allyriadau CO2 Tata Steel UK o bum miliwn tunnell y flwyddyn ac allyriadau cyffredinol gwledydd y DU tua 1.5%.”
Inline Tweet: https://twitter.com/PrifWeinidog/status/1748310343598694806?s=20
'Anghredadwy'
Fe wnaeth Tata gyfarfod gyda'r undebau llafur Unite, GMB a Community yn Llundain ddydd Iau.
Dywedodd Community a GMB ei fod yn "warth llwyr bod Tata Steel, a Llywodraeth y DU, yn ymddangos yn benderfynol o fynd ar drywydd y cynllun rhataf yn lle’r cynllun gorau ar gyfer ein diwydiant, ein gweithwyr dur a’n gwlad".
"Mae’n anghredadwy y byddai unrhyw lywodraeth yn rhoi £500m i gwmni i daflu 3,000 o weithwyr ar y domen, a rhaid i’n Llywodraeth ail-werthuso ei chynnig truenus i gefnogi buddsoddiad yn Tata Steel," medden nhw.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd Tata mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y byddai’r cytundeb yn gallu ei achub.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak ei fod wedi "ymroi'n llwyr" i gefnogi'r diwydiant dur yn y DU.
“Mae’r cwmni’n buddsoddi mwy o arian er mwyn diogelu miloedd o swyddi, ac mae hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud," meddai.
“Ni chymerodd Llywodraeth Cymru ran yn hynny ac mae hynny oherwydd ein bod yn poeni am y swyddi hynny, a dyfodol dur yng Nghymru a’r DU."
'Gwneud popeth'
Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd bod cyhoeddiad Tata Steel yn "newyddion trychinebus i gymuned Port Talbot a phawb yng Nghymru sy'n dibynnu ar y diwydiant".
Roedd hynny'n cynnwys y rhai sy'n gweithio yn safleoedd eilaidd Tata yn Llanwern a Throstre, meddai.
"Mae’r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn ein meddyliau yn y Senedd," meddai.
“Rydym ni fel Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiwn frys, gan alw ar Weinidogion i fynd at wraidd cwestiynau sydd heb eu hateb ac i gael sicrwydd ynghylch y cymorth sydd ar gael i bobl yr effeithir arnynt.
"Y llynedd, siaradodd y Pwyllgor ag undebau am y posibilrwydd o golli swyddi ym maes dur yng Nghymru a chlywsom am yr effaith ofnadwy y byddai'n ei chael ar weithwyr y ffatri, eu teuluoedd a'u cymuned, yn ogystal â'r canlyniadau i'r gadwyn gyflenwi ehangach.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael atebion i'r rhai sydd wedi'u heffeithio."