Newyddion S4C

Cyfnod 'gwael iawn' i siopau dros y Nadolig

19/01/2024
S4C

"Gwael iawn" oedd pethau i nifer o siopau dros y Nadolig, yn ôl y swyddfa ystadegau gwladol.

Gwelodd siopau'r gostyngiad mwyaf ers y pandemig Covid yn nifer y nwyddau a gafodd eu gwerthu.

Fe wnaeth gwerthiannau ostwng o 3.2% ym mis Rhagfyr yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dywed yr ONS fod yna ychydig o dystiolaeth fod cwsmeriaid wedi gwneud mwy o siopa Nadolig na'r arfer ym mis Tachwedd.

Roedd hyn yn golygu fod mis Rhagfyr wedi profi'r gostyngiad mwyaf mewn gwerthiant i'r sector manwerthu ers mis Ionawr 2021, pan oedd y wlad yn dal i fod o dan gyfyngiadau Covid-19.

Fe wnaeth gwerth yr eitemau oedd cwsmeriaid yn eu prynu hefyd ostwng o 3.6% yn ôl yr ONS.

'Lledaenu’r gost'

Dywedodd Heather Bovill o'r ONS: "Perfformiodd siopau bwyd yn wael iawn, gyda’u gostyngiad mwyaf serth ers mis Mai 2021 wrth i siopa Nadolig cynnar arwain at lai o werthiant ym mis Rhagfyr."

Fe wnaeth siopau bwyd weld gostyngiad o 3.1% yn eu gwerthiannau.

"Roedd siopau adrannol, siopau dillad a manwerthwyr nwyddau cartref yn awgrymu eu bod wedi cael gwerthiannau gwael hefyd gan fod defnyddwyr yn gwario llai ar anrhegion Nadolig," meddai Heather Bovill.

"Ond fe ychwanegon nhw hefyd fod pobl wedi prynu’n gynharach yn ystod hyrwyddiadau Dydd Gwener Du i helpu i ledaenu’r gost."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.