Llofruddiaeth Bae Colwyn: dau ddyn yn y llys
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ddydd Iau i wynebu cyhuddiad o lofruddio dyn 65 oed ym Mae Colwyn fis Tachwedd diwethaf.
Bu farw David Mark Wilcox, 65 oed, yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Llun 20 Tachwedd, 2023.
Cafodd David Webster, 42, o Lacey Street, Widnes yn Sir Gaer, a Thomas Whiteley, 33, o Emlyn Close, Hen Golwyn, eu cadw yn y ddalfa gan ynadon yn Llandudno.
Fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron llys y goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Roedd Lauren Harris, 29 oed, eisoes wedi ei chyhuddo o lofruddio Mr Wilcox fis Tachwedd diwethaf, ac fe fydd yn wynebu achos llys yn ddiweddarach eleni.
Fe awgrymodd y cyfreithiwr David Jones, ar ran Webster, y byddai ei gleient yn gwadu'r cyhuddiad.