Newyddion S4C

Ysgolion ar gau a thrafferthion ar y ffyrdd ar ôl tywydd gaeafol

18/01/2024

Ysgolion ar gau a thrafferthion ar y ffyrdd ar ôl tywydd gaeafol

Bu ysgolion mewn sawl rhan o Gymru ar gau ddydd Iau wrth i eira ddisgyn.

Mae rhybudd melyn am eira a rhew wedi bod mewn grym i rannau o Gymru ac wedi ei ymestyn tan 10:00 fore Gwener

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira achosi trafferthion ar rai ffyrdd am gyfnodau. Bu tagfeydd ar yr A55 yn ystod dydd Iau wedi nifer o fân ddamweiniau.

Yng Ngwynedd  roedd 19 o ysgolion ar gau oherwydd y tywydd.

Roedd pedair ar gau ar Ynys Môn hefyd.

Mae 23 o ysgolion ar gau neu'n rhannol ar gau yn Sir Benfro ac mae chwech ar gau yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod saith ysgol ar gau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira achosi trafferthion ar rai ffyrdd am gyfnodau.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael eu gohirio oherwydd y tywydd.

Mae oedi wedi bod ar Bont Britannia yn ogystal yn ystod dydd Iau, oherwydd yr amodau. Mae Traffig Cymru yn cynghori pobl i ganiatáu amser ychwanegol i deithio.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi ymateb i wrthdrawiadau ym Mangor, Caernarfon a'r Felinheli.  

Image
Eira yng Nghaernarfon
Eira yng Nghaernarfon
Image
Damwain car
Damwain car yn y Felinheli

Ysgolion ar gau

Bydd pa ysgolion sydd ar gau yn cael ei gyhoeddi ar wefannau'r cynghorau unigol. Mae modd eu gwirio isod:

Prif lun: Aled Fon Roberts

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.