Newyddion S4C

Cynlluniau i ailagor rheilffyrdd rhwng y gogledd a'r de 'yn costio tua £2 biliwn'

Newyddion S4C 17/01/2024

Cynlluniau i ailagor rheilffyrdd rhwng y gogledd a'r de 'yn costio tua £2 biliwn'

Fe fyddai cynlluniau i ailagor hen linellau rheilffyrdd i wella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de yn costio tua £2 biliwn, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Yn ôl y Prif Weithredwr James Price, byddai hynny'n "gostus iawn" i'w ddatblygu ac "anodd" i'w weithredu.

Fe edrychodd y cwmni ar ailagor llinell rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac Afon Wen a Bangor.

Dywedodd ymgyrchwyr ei bod yn aneglur sut y cyrhaeddodd Trafnidiaeth Cymru y ffigwr.

O dan gytundeb cydweithio Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru edrych ar sut y gallai'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a'r de gael eu datblygu.

Roedd hynny'n cynnwys coridorau teithio posib ar hyd arfordir gorllewin Cymru o Gaerfyrddin i Fangor. 

Fe edrychodd Trafnidiaeth Cymru ar ail-gysylltu llwybrau trên sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach rhwng Bangor ac Afon Wen oedd tua 28 o filltiroedd.

Roedd y llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin tua 50 o filltiroedd a chaewyd y ddwy reilffordd yn y 60au.

Llywodraeth Cymru ydi perchennog Trafnidiaeth Cymru - y corff sy'n gyfrifol am nifer o wasanaethau trên ar draws y wlad ers 2018. 

Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd Senedd Cymru, dywedodd y Prif Weithredwr eu bod wedi gwneud "asesiad eang" i edrych sut y gallu cysylltiadau gael eu gwella ar arfordir gorllewinol Cymru. 

'Mwy o alw'

Ychwanegodd James Price: "Roedd y cynigion rheilffordd, tra'n cynnig teithiau byrrach, yn gostus iawn i'w datblygu a'u gweithredu (byddai cynllun trên ysgafn yn costio tua £2bn) ac yn cymryd 10 mlynedd i'w weithredu.

"Felly, fe fyddai'n anodd gweithredu'r rhain, hyd yn oed fel cynlluniau trên ysgafn. Mae'r achos dros Fangor - Caernarfon/Afon Wen yn gryfach gan fod y daith yn fyrrach a mwy o alw.

"Yr argymhelliad yw cymryd camau pellach i amddiffyn y llwybr hwnnw rhag datblygiad pellach lle mae'n bosib gwneud hynny."

Yn ôl yr arbenigwr trafnidiaeth Stuart Cole, mae'n annhebygol y bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu oherwydd y gost a'r cymhlethdod.

"S'dim lot o siawns," meddai. "O'r galon mi fyddwn i'n hoffi cael rheilffordd sy'n mynd o Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin i Aberystwyth. Byddai hynny'n grêt.

"Ond fel economist galla’i ddim dweud hynny. Mae'n rhy ddrud am beth mae'r arian yn cael yn ôl mewn maint y teithwyr a'r amser sy'n cael ei arbed."

Image
Adam Price
Adam Price AS

Dywedodd cyn arweinydd Plaid Cymru Adam Price y byddai'n bosib ei gyllido drw waraint ar gynllun HS2 yn Lloegr.

"Pe bai Cymru yn cael yr arian ni'n haeddu drwy HS2 - hyd yn oed HS2 wedi ei dalfyrru- byddai digon o arian calyniadaol neu consequential yn dod i Gymru,” meddai AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

"Gobeithio y bydd Llywodraeth San Steffan nesa'n gwneud hynny ac y gallwn ni wireddu'r weledigaeth cyffrous yma."

'Pragmatig'

Yng Nghaerfyrddin, roedd na gefnogaeth i'r syniad, ond hefyd pryderon am y gost.

"Bydde fe'n grêt achos fi'n mynd i Aberystwyth eithaf lot... ond mae’n rhaid bod yn bragmatig," meddai Branwen Evans.

Dywedodd Margaret Jones: "Fi'n credu bod ishe system trenau gwell fel bod pobol yn gallu symud o un man i'r llall a hefyd ac mae'n arbed mwy o draffig ar y ffordd."

Dywedodd Mark Davies o grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru eu bod wedi eu "synnu" gyda sylwadau Trafnidiaeth Cymru.

"Dylid nodi nad yw astudiaethau cwmpasu a dichonoldeb wedi’u cwblhau eto ar gyfer rhan ogleddol y lein ac felly nid yw’n glir sut mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd y cyfanswm o £2bn," meddai.

Ychwanegodd y byddai ailagor y lein yn "ysgogiad mawr" i'r economi leol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.