Tafarn boblogaidd ym Mhenfro wedi ei difrodi mewn tân
Mae tafarn boblogaidd mewn pentref glan môr wedi cael ei difrodi'n ddrwg mewn tân.
Dechreuodd y tân am tua 01:00 tu fewn i Dafarn y Duke of Edinburgh sydd gyferbyn â'r traeth yn Niwgwl, Sir Benfro, ddydd Mawrth.
Mynychodd criwiau tân o Dyddewi, Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Abergwaun y lleoliad gan dreulio tua chwe awr yn dod â’r tân dan reolaeth a gwneud yr adeilad yn ddiogel.
Cafodd yr A487 - y brif ffordd sy'n rhedeg trwy Niwgwl ac sy'n cysylltu Hwlffordd â Thyddewi - ei chau gan yr heddlu am rai oriau dros nos o ganlyniad i'r tân.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Am 01:00 ddydd Mawrth, Ionawr 16, cafodd criwiau Tyddewi, Hwlffordd, Aberdaugleddau, ac Abergwaun eu galw i ddigwyddiad yn Niwgwl, Hwlffordd.
Inline Tweet: https://twitter.com/JamesParkin2010/status/1747516508891201688
"Ymatebodd criwiau i dân o fewn adeilad deulawr yn mesur tua 15m x 30m a ddefnyddir fel tafarn gyda llety uwchben. Roedd yr eiddo ar dân ac roedd y tân wedi llosgi drwy'r to."
Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru