Casnewydd i wynebu cewri Man Utd wedi buddugoliaeth yng Nghwpan yr FA
Manchester United fydd gwrthwynebwyr nesaf Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi iddyn nhw guro Eastleigh o 3-1 mewn gêm enfawr yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr nos Fawrth.
Cafodd Casnewydd y dechreuad perffaith gydag Aaron Wildig yn sgorio wedi tair munud.
Llwyddodd Eastleigh i unioni'r sgôr ar ddechrau'r ail hanner gyda gôl gan Paul McCallum.
Ond llwyddodd James Clarke i roi'r Alltudion yn ôl ar y blaen gyda gôl wedi union awr o chwarae.
Ac yna i selio'r fuddugoliaeth rhwydodd Will Evans ddeng munud cyn y chwiban olaf.
Dyma'r eildro i Gasnewydd wynebu Eastleigh yng nghwpan yr FA ar ôl gêm gyfartal 1-1 ar ddechrau'r mis.
Roedden nhw eisoes yn gwybod, pe bai nhw yn fuddugol nos Fawrth, mae cewri Manchester United fyddai'r gwrthwynebwyr nesaf ac y byddai Marcus Rashford, Harry Maguire a Christian Eriksen ar eu ffordd i Rodney Parade ar gyfer gêm gartref i Gasnewydd.
Ac mewn wythnos fawr yn nhymor Casnewydd, bydd yr Alltudion hefyd yn croesawu Wrecsam i Rodney Parade mewn gêm gynghrair yn Adran Dau, ddydd Sadwrn.
Mae Wrecsam yn ogystal ag Abertawe yn ddi-guro yng Nghwpan yr FA.
Llun: Asiantaeth Huw Evans