Newyddion S4C

Adroddiadau y gallai'r troseddwr rhyw Josef Fritzl gael ei symud i gartref gofal

16/01/2024
Josef Fritzl

Mae adroddiadau y gall y troseddwr rhyw o Awstria Josef Fritzl gael ei symud o'r carchar i gartref gofal. 

Fe wnaeth Fritzl, sydd bellach yn 88, gloi ei ferch mewn selar am 24 mlynedd a'i threisio yn gyson gan ddod yn dad i saith o blant gyda hi.

Cafodd ei garcharu am oes yn 2009.

Yn ôl adroddiadau yn Awstria, mae adroddiad seiciatrig newydd yn dweud nad yw Fritzl, sydd yn byw gyda dementia, bellach yn peri risg i'r cyhoedd.

Mae Fritzl ar hyn o bryd mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr â phroblemau meddwl yng Ngharchar Stein yn nhref Krems an der Donau.

Mae arbenigwyr cyfreithiol yn dweud y gall Fritzl gael ei ryddhau yn amodol, gan olygu y gallai symud i gartref gofal. 

Enwau newydd

Yn 2022, fe wnaeth llys rhanbarthol ddatgan "nad oedd Fritzl bellach yn berygl" ac y gallai gael ei symud i garchar arferol, ond fe wnaeth yr Uwch Lys Rhanbarthol yn Fienna atal y penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach.

Mae achos Fritzl, a ddigwyddodd yn nhref Amstetten yn 2008, wedi cael ei ddisgrifio fel un o'r rhai gwaethaf yn hanes troseddol Awstria. 

Fe'i cafwyd yn euog o lofruddio un o'i blant drwy esgeulustod, yn ogystal â threisio a chaethiwo ei ferch.

Mae merch Fritzl a'i phlant bellach wedi cael enwau newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.