Newyddion S4C

Sgandal Horizon: Penaethiaid Swyddfa'r Post a Fujitsu i wynebu ASau

16/01/2024
post office.jpg

Fe fydd penaethiaid Swyddfa'r Post a Fujitsu yn cael eu cwestiynu gan ASau ddydd Mawrth. 

Bydd prif weithredwr Swyddfa'r Post Nick Read a chyfarwyddwr Fujitsu yn Ewrop Paul Patterson yn ymddangos o flaen Pwyllgor Masnach a Busnes Tŷ’r Cyffredin.

Fe fydd ASau yn cwestiynu beth oedd Fujitsu a Swyddfa'r Post yn wybod am y problemau gyda meddalwedd Horizon a phryd oedden nhw'n ymwybodol o hyn.

Fe wnaeth meddalwedd Horizon arwain at achosion troseddol yn erbyn 700 o is-bosteistri, gan gynnwys nifer yng Nghymru, am fod y system honno wedi gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll.

Fe fydd Alan Bates, y cyn-is bostfeistr a wnaeth ysbrydoli'r gyfres ddrama ddiweddar ar ITV Mr Bates vs the Post Office, a'r cyn-is-bostfeistwraig Jo Hamilton hefyd yn rhoi tystiolaeth ddydd mawrth. 

Dywedodd wrth Sky News: “Mae gen i un peth mewn golwg, sef cael yr iawndal yn iawn, a dyna ni.

“Fe ddylen nhw fod yn symud y nefoedd a'r ddaear i wneud pethau yn iawn a'u gwneud yn gyflym.”

Bydd Ysgrifennydd Swyddfa'r Post Kevin Hollinrake hefyd yn ymddangos.

Gwrthdroi

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf gynlluniau i wrthdroi euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri Swyddfa’r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam yn sgil sgandal Horizon. 

Bydd cyn-is bostfeistri sy'n cael eu heuogfarnau wedi eu gwrthdroi yn gymwys i dderbyn taliad iawndal o £600,000 tra bod Rishi Sunak hefyd wedi cynnig £75,000 i gyn-is bostfeistri oedd yn rhan o grwp cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post.

Mae Rishi Sunak wedi wynebu galwadau i fynd ymhellach a gwahardd Fujitsu rhag sicrhau cytundebau'r Llywodraeth, ac i fynd ar eu holau er mwyn sicrhau taliadau iawndal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.