Newyddion S4C

Taflegryn yr Houthis yn Yemen yn taro llong Americanaidd medd swyddogion

15/01/2024
M/V Gibraltar Eagle

Mae gwrthryfelwyr yr Houthis yn Yemen wedi ymosod ar un o longau'r Unol Daleithiau, medd swyddogion Americanaidd . 

Yn ôl yr Americanwyr, cafodd y llong gargo ei tharo gan un o dri thaflegryn a gafodd ei danio, a hynny ger arfordir de Yemen ddydd Llun. 

Achosodd hynny dân ar fwrdd llong yr M/V Gibraltar Eagle, ond doedd dim “difrod sylweddol,” iddi medd swyddogion, ac mae hi'n dal i hwylio ar y Môr Coch. 

Mewn neges a gafodd ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd Centcom, sef llu milwrol yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, nad oedd unrhyw un wedi ei anafu. 

“Nid oes unrhyw anafiadau wedi’u cofnodi yn sgil yr ymosodiad, a doedd dim difrod sylweddol i’r llong ac mae’n parhau ar ei thaith,” meddai’r datganiad.

Cafodd y llong, sy’n cludo cynnyrch dur, ei tharo “o'r awyr ,” medd asiantaeth ddiogelwch Gweithrediadau Masnach Forol y Deyrnas Unedig. 

Dywedodd Eagle Bulk Shipping fod y taflegryn wedi taro tra roedd y llong oddeutu 100 milltir oddi ar arfordir Gwlff Aden. 

‘Peryglu bywydau morwyr y DU’

Yn ôl Ambrey, sef cwmni Prydeinig dros ddiogelwch morwrol, mae'r Houthis wedi taro'n ôl wedi ymosodiad ar y cyd gan y DU a’r UDA ar yr Houthis yn Yemen yr wythnos ddiwethaf. 

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn Lun, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod 13 o dargedau’r Houthis wedi’u dinistrio hyd yma.

Mewn ymateb galwodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ar Mr Sunak i esbonio sut yr oedd “gollwng bomiau” yn helpu i amddiffyn morwyr y DU yn y Môr Coch.

“Mae sgramblo tuag at ymosodiadau milwrol yn peryglu morwyr y DU yn y Môr Coch.

“A all [Mr Sunak] esbonio i forwyr sut yn union mae gollwng bomiau yn helpu i leddfu sefyllfa sydd eisoes yn eu peryglu nhw?”

Ymatebodd Mr Sunak gan ddweud: “Rwy'n meddwl bod hynny'n eithaf rhyfeddol – rocedi’r Houthi sy'n peryglu bywydau morwyr Prydeinig yn y rhanbarth yno. 

“Rydyn ni’n gweithredu mewn modd hunanamddiffynol er mwyn gwarchod bywydau morwyr, nid er mwyn eu peryglu, a byddai’n well i alw ar yr Houthis i atal yr hyn maen nhw’n ei wneud.”

Priflun o'r Gibraltar Eagle (Vessel Finder)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.