'Torcalonnus': Tân mewn meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd
'Torcalonnus': Tân mewn meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd
Roedd tân mewn meithrinfa Gymraeg ar ystad ddiwydiannol yng Nghasnewydd nos Sul.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd meithrinfa Wibli Wobli yn ardal Tŷ-du (Rogerstone): "Ein meithrinfa hardd a beth sydd ar ôl ohoni nawr.
"Hollol dorcalonnus i'n holl staff, plant a rhieni. Mae tudalen Gofundme wedi'i sefydlu rhannwch os gwelwch yn dda.
"Rydym hefyd yn awr yn chwilio am adeilad arall o amgylch Tŷ-du. Diolch yn fawr."
Ychwanegodd bradgy y Tiny Rebel fod yna "dân enfawr wedi digwydd yn yr adeilad wrth ymyl ein bragdy".
"Mae'r arwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn delio gyda'r tân ar hyn o bryd," meddai'r llefarydd.
"Yn ffodus, mae'r bragdy yn iawn ac ar hyn o bryd, dyw'r tân ddim wedi effeithio arnom."
Inline Tweet: https://twitter.com/RondelRoss/status/1746645172006322595?s=20
Ychwanegodd y gwasanaeth tân bod nifer o griwiau yn delio gyda'r digwyddiad yn Stad Ddiwydiannol Wern.
"Rydym yn gofyn i drigolion lleol gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau yn sgil y mwg," medden nhw.
Fe wnaeth Heddlu Gwent gynghori pobl i osgoi'r ardal a dod o hyd i ffyrdd eraill ar gyfer eu teithiau.
Llun gan Darren Thomas Photography.