Penodi Nia Bennett yn Gadeirydd newydd Urdd Gobaith Cymru
Mae Nia Bennett wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd newydd Urdd Gobaith Cymru.
Mae hi'n olynu Dyfrig Davies, sydd yn rhoi'r gorau i'r rôl wedi chwe blynedd wrth y llyw.
Wedi ei geni yn Bolton, fe gafodd Nia Bennett ei magu yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.
Yn dilyn cyfnodau o fyw yn Aberystwyth, Y Felinheli a Brwsel, ymgartrefodd yng Nghaerdydd gan fagu tri o blant a gweithio ym maes Cynhwysiant ac Adnoddau Dynol cyn cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Corfforaethol.
Mae bellach yn Gyfarwyddwr cwmni effectusHR.
Mae wedi bod yn aelod o Banel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2011 ac yn Gadeirydd y Panel ers 2018.
Cafodd ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Gwaith Gweithredol yr Urdd gan Ymddiriedolwyr yr Urdd yn 2020, a chafodd ei hethol fel Ymddiriedolwr yn 2021.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Nia Bennett: "Rwy’n awyddus i sicrhau bod yr Urdd yn gwbl gynhwysol, yn ymestyn ei gyrhaeddiad ac yn parhau i ddatblygu a gweithredu ar syniadau ein pobl ifanc. Drwy gynnig cyfleoedd i bawb - beth bynnag eu cefndir - i ehangu eu sgiliau a’u profiadau, rydym yn cyfrannu at ddatblygiad Cymry’r dyfodol, a thrwy hynny dyfodol Cymru.”
Cyhoeddodd y mudiad hefyd bod dau aelod newydd wedi’u penodi yn Ymddiriedolwyr Ifanc yr Urdd, sef Deio Siôn Llewelyn Owen ac Emily Pemberton.
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Urdd Siân Lewis: "Rydym yn falch iawn o groesawu Nia Bennett i gadeirio Bwrdd yr Urdd ac i adeiladu ar y cyfraniad enfawr a wnaed gan Dyfrig Davies, sydd wedi cefnogi’r Urdd drwy newidiadau Llywodraethiant sylweddol. Hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i Emily a Deio i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Mudiad.
"Wrth i’r Urdd ddatblygu a ffynnu, mae’r penodiadau newydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau â’n taith o fod yn sefydliad blaengar. Mae amrywiaeth o safbwyntiau, ystwythder yn ein penderfyniadau ac ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol i gyflawni ein strategaeth ‘Urdd i Bawb’.