Newyddion S4C

Bryan Adams i berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BRYAN ADAMS

Bydd Bryan Adams yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn haf 2024.

Fe fydd  y seren roc o Ganada yn perfformio cyngerdd fel rhan o'r Eisteddfod ar ddydd Mawrth 18 Mehefin, medd y trefnwyr.

Bydd Adams yn ymuno â Kaiser Chiefs, Jess Glynne, Manic Street Prachers a nifer o gantorion eraill fydd yn perfformio yn yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf.

Fe fydd Tom Jones a Katherine Jenkins hefyd yn cymryd rhan yn yr ŵyl.

Dywedodd Dave Danford, Prif Raglennydd a Rheolwr Cynhyrchu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym mor gyffrous i groesawu Bryan Adams i Langollen am y tro cyntaf.

“Mae ganddo gatalog enfawr o ganeuon anthemig, fydd yn codi nenfed ein Pafiliwn yr haf nesaf. 

"Ef yw’r enw diweddaraf i gael ei gyhoeddi fel rhan o'n harlwy anhygoel ar gyfer 2024, pan fydd yr Eisteddfod yn fwy ac yn well nag erioed!”

Fe fydd y gyngerdd y tu allan i brif wythnos gystadlu yr Eisteddfod a fydd yn cael ei chynnal o 2-7 Mehefin.

Bob blwyddyn mae mwy na 4,000 o berfformwyr o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan  yn te Eisteddfod sy'n  pwysleisio neges o heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.