Rhybudd am bresenoldeb opioid all 'beryglu bywyd' mewn cyffur sydd ar gael ar-lein
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gall opioidau fod yn bresennol mewn cyffur y mae modd ei gael drwy bresgripsiwn, ac y gallai “beryglu bywyd” y rhai sy’n ei defnyddio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio fod presenoldeb opioidau wedi’i ganfod yn y cyffur benzodiazepine.
Mae benzodiazepine yn cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau fel gorbryder neu anawsterau cysgu, ond mae nifer o bobl hefyd yn prynu’r cyffur ar-lein, drwy farchnadoedd cudd sydd heb eu rheoli.
Ers mis Medi eleni, mae gwasanaeth profi cyffuriau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn dros 20 o samplau o’r cyffur y mae pobl yn y DU wedi eu prynu ar-lein gyda rhai'n cynnwys math o opioid o’r enw nitazene.
Mae nitazene yn opioid synthetig “hynod bwerus” sy'n dod yn fwyfwy cyffredin o fewn cyflenwad cyffuriau anghyfreithlon y DU.
Mae nitazene bellach wedi’i ganfod mewn math cyffredin o benzodiazepine, sef diazepam, sy'n cael ei ddefnyddio i drin gorbryder, sbasmau ar y cyhyrau a ffitiau; yn ogystal â alprazolam a oxycodone hefyd.
‘Codi ymwybyddiaeth’
Mae Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Rick Lines, yn pryderu y gallai’r bobl sy’n prynu’r math yma o gyffur beryglu eu bywydau heb yn wybod iddyn nhw.
“Rydym yn pryderu bod y bobl sy’n defnyddio’r cyffuriau yma yn peryglu eu bywyd,” meddai.
“I’r rheiny sy’n dioddef symptomau negyddol wrth ddefnyddio beth maen nhw’n eu credu i fod yn benzodiazepine, mae posibilrwydd eu bod nhw’n dioddef gorddos opioid mwy difrifol y dylid ei drin â Naloxone.
“Rydym yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r peryglon, gan sicrhau bod pawb yn ymwybodol y gall Naloxone achub bywyd – a hynny ar gael am ddim i bobl yng Nghymru er mwyn dadwneud gorddos opioid.
“Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod yn profi gorddos o opiadau gysylltu â 999.
“Gall pobl amddiffyn eu hunain ymhellach trwy sicrhau eu bod ond yn cael meddyginiaethau presgripsiwn trwy eu meddyg teulu.”