Newyddion S4C

Brwydro ffyrnig yn Khan Younis yn ne Gaza, wrth i'r sefyllfa ddyngarol yno waethygu

10/12/2023
GAZA UNRWA

Mae adroddiadau bod brwydro ffyrnig wedi bod rhwng lluoedd Israel ag aelodau o Hamas yn ninas fwyaf de Gaza, Khan Younis, dros nos - wrth i'r sefyllfa i drigolion y diriogaeth waethygu.

Mae o leif 17,700 o bobl gyffredin Gaza wedi marw yn yr ymladd yno yn ystod y deufis diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf gwasanaeth iechyd Gaza, sydd dan reolaeth Hamas.

Mae grwpiau dyngarol wedi disgrifio sefyllfa “apocalyptaidd” yn Gaza, gan rybuddio ei fod ar fin cael ei lethu gan afiechyd a newyn.

Dywedodd asiantaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ffoaduriaid Palesteinaidd (UNRWA) mai dim ond mewn rhan fach iawn o dde Gaza yr oedd wedi gallu dosbarthu cymorth “oherwydd dwyster yr ymladd ers i’r saib dyngarol ddod i ben.”

Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr gweithredol UNRWA, Carl Skau: “Mae tua hanner y boblogaeth yn Gaza yn newynu… Mae’r ymgyrch ddyngarol yn methu. Gyda'r anhrefn a'r ymladd parhaus nid yw'n bosibl gwneud y gwaith sydd ei angen."

Gorchymyn

Mae byddin Israel wedi gorchymyn trigolion Khan Younis allan o ganol y ddinas honno dros nos, wrth i'w hymgyrch filwrol ddwysau.

Dywedodd Tzachi Hanegbi, ymgynghorydd ar ddiogelwch cenedlaethol y wlad, bod ei lluoedd wedi lladd 7,000 o aelodau o Hamas hyd yma, ond nid yw'r nifer yma wedi ei gadarnhau'n annibynnol.

Mewn neges gan fyddin Israel ar blatfform cymdeithasol Telegram, dywedodd llefarydd: "Fe wnaeth milwyr yr IDF leoli a dinistrio stociau arfau, cynnal cyrchoedd wedi'u targedu ar safleoedd milwrol, dinistrio siafftiau twneli terfysgol tanddaearol a rhwystro celloedd terfysgol arfog a oedd yn bwriadu ymosod ar filwyr yr IDF.

"Dros nos, fe darodd ein hawyrlu safle cyfathrebu milwrol Hamas ger mosg yn ne Llain Gaza. Yn dilyn yr ymosodiad, cynhaliodd y milwyr gyrch wedi'i dargedu ar y safle. Dros y diwrnod diwethaf, taniodd milwyr yr IDF arfau gan daro siafftiau twnnel tanddaearol yn Khan Younis."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.