Newyddion S4C

Dedfryd o 32 mlynedd i ddyn am lofruddio dosbarthwr parseli o Gaerdydd

01/12/2023
El Gifari

Mae dyn a lofruddiodd dosbarthwr parseli o Gaerdydd gyda'i fan ei hun wedi cael ei ddedfrydu i 32 o flynyddoedd dan glo.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos diwethaf fod Christopher El Gifari, 31 oed,  Aberdâr, yn euog o lofruddio Mark Lang o ardal Cyncoed yn y brifddinas, ac o ladrata.

Cafodd hefyd ei ddedfrydu ddydd Gwener i 10 mlynedd yn y carchar am ladrata.

Bu farw Mr Lang, 54 oed, wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol ar ôl gael ei lusgo “cannoedd o fetrau” o dan ei fan ei hun tra roedd yn ceisio atal El Gifari rhag dianc gyda’i eiddo.

Bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach ar 28 Ebrill, yn Ysbyty Athrofaol Cymru. 

Roedd Christopher El Gifari wedi pledio'n euog i ddynladdiad a dwyn ond yn ddieuog i lofruddiaeth a lladrata.

Cafodd y digwyddiad ei recordio ar gamerâu CCTV cyfagos, a ddangosodd Mr El Gifari yn dwyn y fan a gyrru i ffwrdd. 

'Rhyw fath o gysur'

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu De Cymru Matt Powell yn dilyn y ddedfryd: "Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn gallu helpu teulu a ffrindiau Mark mewn rhyw ffordd i symud ymlaen. Mae ein meddyliau ni yn parhau gyda nhw."

Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant: "Roedd Mark Lang yn bartner, tad, mab, brawd, ewythr a ffrind oedd pawb yn ei garu, ac fe gafodd anafiadau difrifol tra'n gwneud ei swydd yng Nghaerdydd fel dosbarthwr parseli.

"Ar brynhawn 28 Mawrth 2023, fe wnaeth Christopher El Gifari wneud penderfyniad i ddwyn fan Mark a'i yrru ar gyflymder i fewn iddo, gan achosi anafiadau nad oedd modd gwella ohonynt a newid bywyd Mark am byth.

"Dwi'n cydnabod na fydd unrhyw beth yn gallu dod â Mark yn ôl neu wneud yn iawn am ddigwyddiadau'r diwrnod hwnnw, a thra na all canlyniad heddiw fyth wneud yn iawn i deulu Mark am eu colled, dwi'n gobeithio y gall gynnig rhyw fath o gysur i bawb oedd yn ei garu."

Dywedodd teulu Mark Lang yr wythnos diwethaf ar ôl i El Gifari ei gael yn euog o'i lofruddio fod y "misoedd diwethaf wedi bod yn erchyll i ni fel teulu wedi llofruddiaeth creulon ac, mewn gwirionedd, dibwrpas Mark. Rydym bellach yn gorfod mynd i'r afael â wynebu bywyd hebddo.

"Mae ei bartner yn wynebu bywyd ar ben ei hun, ni fydd ei ferched yn cael eu tad yn eu priodas, ni fydd ei wyrion fyth yn adnabod eu tad-cu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.