Newyddion S4C

Dod o hyd i gar pedwar dyn ifanc sydd ar goll yng Ngwynedd

21/11/2023
Hugo Morris, Wilf Henderson, Harvey Owen a Jevon Hirst

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gar pedwar dyn ifanc sydd ar goll yng Ngwynedd.

Dywedodd y llu mewn datganiad fore Mawrth bod y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mae'r A4085 rhwng Garreg a Phont Aberglaslyn ar gau.

Dywedodd yr heddlu nos Lun eu bod yn pryderu am y pedwar oedd wedi mynd ar goll o ardal Harlech/Porthmadog ers bore dydd Sul.

Enwau'r pedwar yw Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Henderson a Hugo Morris a'r gred yw eu bod yn dod o ardal Yr Amwythig.

Roeddynt yn teithio mewn Ford Fiesta arian gyda phlatiau adnabod HY14GVO cyn mynd ar goll.

“Yn dilyn gwybodaeth gan aelod o’r cyhoedd mae swyddogion sy’n chwilio am bedwar unigolyn sydd yn eu harddegau sydd ar goll yn ardal Porthmadog wedi dod o hyd i’r cerbyd yr oedden nhw’n teithio ynddo,” meddai’r heddlu.

“Mae swyddogion heddlu a chydweithwyr o wasanaethau brys eraill yn y fan a’r lle ar hyn o bryd ac mae eu teuluoedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf.

“Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau pan fydd ar gael."

Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi bod yn chwilio am y car mewn meysydd parcio lleol ac fe gafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei hanfon i chwilio ardal ger Gwarchodfa Natur Glaslyn am 04.30 fore dydd Mawrth am gyfnod.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod A184194.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.