Mudiad Yr Hoelion Wyth yn awyddus i ymestyn ar draws Cymru
Mudiad Yr Hoelion Wyth yn awyddus i ymestyn ar draws Cymru
John y Graig neu John Davies yw'r olaf o sylfaenwyr yr Hoelion Wyth.
Mae e'n cael glasied fach o win bob bore am unarddeg. Ac yntau wedi cyrraedd 98 oed, dyw'r gwin ddim wedi gwneud drwg iddo.
Bu'n dweud wrtha i y stori y tu ôl i greu'r mudiad. Beth dechreuodd fi off wedd Nansi'r wraig... ..wedd hi yn Merched y Wawr.
A newydd cael ei sefydlu bryd hynny. O'n i'n cael mynd 'da nhw ambell waith. O'n i'n gweld nhw'n cael gymaint o sbort... ..a meddwl, "Pam na allwn ni gael rhywbeth tebyg?" O'ch chi bach yn genfigennus o Ferched y Wawr? Dros be, we'n, mewn ffordd, we'n. O'n i'n siarad gyda'r bois wedyn yn y gwaith... ..a rhoi y syniad iddyn nhw, chi'n gwybod. Yn y diwedd, benderfynon ni ddechrau rhywbeth. Faint o bleser chi wedi cael ar hyd yn blynyddau o fod yn aelod?
Well, we'n i'n edrych ymlaen i fis Medi i baratoi rhaglen am y gaea. Wedd hynny yn bwysig iawn. Yn nhafarn y Ffostrasol Arms, cyfle i roi'r trefniadau munud ola... ..yn eu lle ar gyfer pen-blwydd arbennig Yr Hoelion Wyth. Mudiad sydd wedi cynnig difyrrwch a diwylliant i ddynion y gorllewin.. ..a'r canolbarth ers hanner can mlynedd.
Os oedd Merched y Wawr yn cael bod fel menywod... ..pam na allwn ni, fel Hoelion Wyth, fel dynion? Erbyn heddi, mae'n bwysig bod dynion, yn enwedig ar ôl Covid... ..bod dynion yn dod mas i gymdeithasu ac i gael bach o hwyl.
O ran pwysigrwydd, fydden i'n dweud mae'r cwbl yn uniaith Gymraeg... ..a hybu'r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn bwysig.
Mae hi yn bwysig cadw'r pethe i fynd yng nghefn gwlad. Dros y blynyddoedd, mae'r mudiad wedi bod yn gyfrifol... ..am ddadorchuddio placiau glas i nodi cyfraniad dynion amlwg... ..fel y gyrrwr cychod cyflym o Aberteifi, Jonathan Jones... ..ynghyd a'r chwaraewr rygbi, Delme Thomas.
Ond mae Eisteddfod Yr Hoelion Wyth... ..hefyd yn ddigwyddiad pwysig yn y calendar. Mae'n hybu Cymreictod, hybu diwylliant... ..a ni'n cael hwyl wrth gymdeithasu. I fi mae'n holl bwysig. Tra'n croesawu'r pen-blwydd, mae'r cadeirydd presennol... ..yn dyheu am weld Yr Hoelion Wyth yn ymestyn ar draws Cymru.
Mae tipyn o siarad wedi bod am gael cangen yn ardal Pwllheli... ..ardal Bala, ond ar hyn o bryd dim ond siarad yw e. Mae eisiau gwneud mwy na siarad, mae ishe gweithredu.
Unwaith bydd y bois yn dechrau, gewn nhw hwyl arni. Edrych ymlaen at y 50 mlynedd nesa felly... ..yn y gobaith bydd mwy o Hoelion Wyth yn ymuno i gryfhau'r mudiad.