Newyddion S4C

Yr Ariannin yn ethol arlywydd newydd o’r dde eithafol

20/11/2023
Javier Milei

Mae’r Ariannin wedi ethol ymgeisydd o’r adain-dde eithafol yn Arlywydd newydd ar y wlad ddydd Sul.

Fe enillodd Javier Milei 56% o’r bleidlais o’i gymharu â Gweinidog yr Economi adain chwith, Sergio Massa, a enillodd 44%.

Cafodd yr etholiad ei chynnal ddydd Sul am nad oedd yr un ymgeisydd wedi sicrhau mwyafrif yn y rownd gyntaf ar 22 Hydref.

Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ymysg yr rheini sydd wedi llongyfarch Javier Milei gan ddweud y bydd "yn gwneud yr Ariannin yn wych unwaith eto".

Mae Javier Milei sy'n 53 oed wedi addo cymryd camau gan gynnwys cau banc canolog yr Ariannin, cael gwared ag arian cyfredol wlad - y peso - a thorri ar wariant cyhoeddus.

Mae hefyd yn gwrthwynebu erthyliad, o blaid cael gwared ar reolau ar ynnau, ac wedi beirniadu'r Pab Francis a chanmol Margarte Thatcher.

“Mae’r cyfnod o ddirywiad wedi dod i ben, does dim troi’n ôl,” meddai Javier Milei mewn araith ar ôl cyhoeddi'r canlyniad.

“Mae gyda ni broblemau anferthol: chwyddiant, diffyg gwaith, a thlodi.

“Mae’n sefyllfa argyfyngus a does dim lle i wneud pethau ar eu hanner.”

‘Llongyfarch’

Roedd Javier Milei yn boblogaidd gyda phleidleiswyr ifanc oedd wedi gwylio’r wlad yn symud o un argyfwng i’r llall.

Mae chwyddiant yn agosáu at 150% a’r banc canolog yn ei chael hi’n anodd talu $44bn mewn dyledion.

Dywedodd Sergio Massa wrth gyhoeddi ei fod yn cydnabod ei fod wedi colli’r etholiad bod “yr Ariannin wedi dewis llwybr gwahanol”.

“Yn amlwg nid dyma’r canlyniadau roedden ni’n gobeithio amdanyn nhw.

“Rydw i wedi siarad â Javier Milei i’w longyfarch oherwydd fe yw’r Arlywydd y mae mwyafrif yr Ariannin wedi’i ddewis am y pedair blynedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.