Het Napoleon yn cael ei gwerthu mewn ocsiwn ym Mharis
Mae un o hetiau Napoleon Bonaparte wedi ei gwerthu mewn ocsiwn ym Mharis ddydd Sul.
Fe werthwyd yr het am 1.9 miliwn ewro, tua £1.67 miliwn i berson anhysbys.
Roedd amcangyfrif cyn yr ocsiwn fod gwerth yr het ffelt afanc ddau gornel rhwng tua £525,000 a £700,00.
Roedd Napoleon yn berchen ar tua 120 o hetiau tebyg ac roedd yn eu gwisgo yn gyfochrog â’i ysgwyddau i’w wneud yn fwy adnabyddus mewn brwydrau.
Y gred yw bod 20 dal i fodoli mewn casgliadau preifat.
Fe wisgodd yr het yma sydd gydag addurn arbennig wrth groesi Môr y Canoldir o Ynys Elba, lle'r oedd wedi bod yn gaeth, i Antibes yn Ffrainc wrth iddo adennill pŵer am gyfnod.
Mae’r het yn cael ei gwerthu ynghyd â phethau cofiadwy eraill oedd yn berchen gan ddiwydiannwr fu farw'r llynedd.