Cyhuddo merch 14 oed o geisio llofruddio merch arall
Mae merch 14 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio merch arall yn dilyn honiad o drywanu ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd ym mhentref Coelbren yn ne Powys yn rhan uchaf Cwm Tawe ychydig wedi 19:00 nos Iau.
Ychwanegodd yr heddlu fod merch wedi ei chludo i’r ysbyty gydag “anafiadau difrifol" a’i bod hi bellach mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd yr heddlu fod merch arall 14 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio a bod ag arf tebyg i gyllell yn ei meddiant.
Mae hi wedi ei chadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun.
Mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.