Elfyn Evans yn dal i arwain Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn dal i arwain Rali Japan ar ôl yr ail ddiwrnod cyflawn ddydd Sadwrn.
Fe ddechreuodd y rali gydag un cymal ddydd Iau ac yna wyth cymal ddydd Gwener.
Mae Evans ar y blaen o 1’15 yn erbyn Sébastien Ogier o Ffrainc yn yr ail safle sydd wedi ennill ychydig o amser yn ôl.
Fe fydd y rali yn dod i ben yn dilyn chwe chymal ddydd Sul.
Dyma rali olaf y flwyddyn ac fe fyddai ennill y rali hon yn cryfhau safle Evans yn ail ym mhencampwriaeth y byd tu ôl i Kalle Rovanperä o’r Ffindir sydd eisoes wedi ei goroni’n bencampwr.
Mae Evans wedi serennu er gwaethaf yr amodau gwlyb trwy’r coed.
Dywedodd Evans ar ôl cymalau dydd Sadwrn: “Diwrnod lletchwith arall er roedd yr amodau yn fwy sych roedd yn hawdd cael eich dal allan. Rydym yn ceisio peidio cymryd unrhyw risg a chadw rhythm da a phwyllo pan roedd yr amodau yn fwy anodd heb golli gormod o amser.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1725839221762543931?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet
Llun: X/Elfyn Evans