Plant Mewn Angen yn codi dros £33 miliwn
18/11/2023
Mae ymgyrch Plant Mewn Angen 2023 wedi codi dros £33 miliwn ar gyfer elusennau ar draws y DU.
Y ffigwr terfynol a oedd wedi ei godi erbyn diwedd y rhaglen deledu arbennig ar BBC 1 nos Wener oedd £33,513,325.
Fe fydd y ffigwr yma yn sicr o gynyddu wrth i ragor o gyfraniadau ddod i law.
Fe lwyddodd y cyflwynydd radio Vernon Kay i godi dros £5 miliwn ar ôl iddo redeg 116 milltir mewn pedwar diwrnod, ac mae cyflwynydd Radio Cymru Aled Hughes wedi cyflawni her "Bearpees" gan deithio ar hyd Cymru.
Mae Plant Mewn Angen wedi cefnogi cannoedd o brosiectau yng Nghymru ers i’r apêl ddechrau yn 1980.