Newyddion S4C

Dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddio athrawes ysgol wrth iddi ymarfer corff

17/11/2023
Ashling Murphy

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio athrawes ysgol wrth iddi ymarfer corff ger camlas yng Ngweriniaeth Iwerddon y llynedd.

Cafodd Ashling Murphy, 23, ei llofruddio wrth redeg ar hyd llwybr camlas yn Tullamore, Swydd Offaly ym mis Ionawr 2022. 

Cafwyd Jozef Puska, 33, sydd o Slofacia yn wreiddiol, yn euog o’i llofruddiaeth ar 9 Tachwedd yn Llys Troseddol Dulyn.

Doedd ganddo ddim cysylltiad â hi ond roedd wedi ymosod arni a’i thrywanu 11 o weithiau yn ei gwddf â chyllell.

Dywedodd y Barnwr Tony Hunt nad oedd yn medru rhoi dedfryd llawn oes iddo, ond os fedrai byddai hynny’n “gwbl haeddiannol”.

Cafodd Jozef  Puska ei weld ar gamera cylch cyfyng yn dilyn dwy ddynes leol ar ei feic yn ystod yr oriau cyn i Ms Murphy gael ei lladd. 

Cychwynodd Ashling Murphy redeg ger y gamlas am 14.51.

Roedd data o’i dyfais Fitbit yn awgrymu ei bod hi wedi marw 40 munud yn ddiweddarach.

Roedd y rheithgor yn unfrydol fod Puska yn euog.

Wedi’r dyfarniad, dywedodd y barnwr yr Ustus Tony Hunt wrth y rheithgor  “mae yna ddrygioni mawr yn yr ystafell hon”.

Ychwanegodd y byddai Puska yn cael ei “ddal i gyfrif” wrth gael ei ddedfrydu ar ddiwrnod arall.

Wrth siarad am deulu Ashling Murphy, dywedodd: “Mae ystyried beth ddigwyddodd yma yn ddigon i’ch gwneud yn gorfforol sâl.”

Cafodd y rheithgor gymeradwyaeth wrth iddyn nhw adael y siambr wrth i fam Ms Murphy ddal llun wedi ei fframio o’i merch i fyny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.