Newyddion S4C

Sut all y Ddeddf Eiddo weithio a pha mor ddifrifol yw prinder tai?

17/11/2023

Sut all y Ddeddf Eiddo weithio a pha mor ddifrifol yw prinder tai?

Byw mewn tŷ, creu cartref. Camau cymdeithasol sy'n profi'n fwyfwy anodd eu cymryd yng Nghymru heddi.

Yn y dyfodol, dw i'n gobeithio mynd nôl i Ynys Môn ond yn amlwg, oherwydd y prisiau'n cynyddu dy rhywun ddim yn gwybod os fydd modd neud hynny a ella ddim isio symud nôl i fyw adre gyda'n rhieni ond ella fydd gynno i'm dewis yn y pendraw oherwydd yr argyfwng tai.

Fi'n aros yn Aberystwyth neu fi'n symud yn ôl gartre i Gwm Gwendraeth? 'Sdim tai yng Nghwm Gwendraeth sy digon fforddiadwy i fi allu prynu neu rhentu.

Mae hi'n stori gyfarwydd ond teimlad gwirioneddol yma heddi bod yna ewyllys gwleidyddol i daclo'r broblem.

Y galwadau o'r gynhadledd oedd am ddeddf eiddo gynhwysfawr ond beth yw hynny?

Yn sylfaenol, 'dan ni isio symud tuag at sefyllfa lle mae tai'n cael eu gweld fel asedau cymdeithasol er lles pawb yn hytrach na ryw nwyddau i'w prynu a'u gwerthu ar y farchnad agored wedyn bod hwnna'n arwain at gamau ymarferol o ran polisi yn rhoi pwerau i gymunedau ddatblygu datrysiadau tai eu hunain a bon nhw'n rheoli'r sector rhentu fel bod mwy o hawlia gan denantiaid a bod eu rhentu nhw'n llawer mwy fforddiadwy.

Mae 'na alwadau felly am yr angen i gyflwyno papur gwyn ar frys ond beth yn union yw hwnnw?

Wel, dyma ddogfen fanwl sy'n nodi syniadau'r llywodraeth mewn maes polisi penodol yn sail i'r hyn fyddai yn y pendraw yn datblygu'n ddeddfwriaeth.

Tydy'r system ddim yn gweithio. Mae 90,000 ar restrau aros. Tydy'r farchnad breifat ddim yn gweithio o ran rhentu gyda 25 o unigolion am bod un lle rhent. Mae angen bod yn uchelgeisiol. Does dim gwell amser na pam mae 'na greisis fel hyn.

Dyna pam bod angen deddfwriaeth arnon ni er mwyn rheoli'r farchnad a dod a tai dan reolaeth cyhoeddus fel bod pobl yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau neu mewn tŷ sy'n addas i bwrpas at eu hanghenion nhw.

Dyna'r nôd yn wleidyddol. Dyw hon ddim yn broblem i Gymru yn unig. Roedd cyfle i glywed gan arbenigwyr ym maes tai sy'n gweithio'n rhyngwladol.

There is no one size fits all model. There is no blueprint. Wales has to look at the unique historical cultural factors that make up Welsh society more broadly and think about which bits of different policies from different countries and different regions could we not copy and paste but look at, understand the mechanics behind it and try to adapt to the specifics of the Welsh context. - There are lessons to be learnt. - Absolutely, yes.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Papur Gwyn yn darparu cynigion er mwyn creu system o rentu teg a gwneud tai yn fforddiadwy i'r rheiny ar incwm lleol, ond Pe bai'r camau wedi eu cymryd ynghynt dw i'n argyhoeddedig byddai sefyllfa heddiw yn wahanol.

Rhaid wynebu'r heriau fel maen nhw heddi. Rhaid cael gweledigaeth ar gyfer system tai gwahanol llawer tecach, mwy cynhwysol sy'n gwasanaethu anghenion pawb yng Nghymru.

Dyna'r her, a disgwyl nawr i'r Llywodraeth benderfynu beth yn union sydd yn bosib mewn maes sy'n effeithio ar gymaint o fewn ein cymdeithas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.