Newyddion S4C

Darpariaeth addysg i blant yn ysbytai Cymru'n 'anghyson'

17/11/2023
Plant yn darllen

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn rhybuddio bod plant yng Nghymru yn wynebu anghysondebau yn y ddarpariaeth addysg mae nhw'n ei gael tra'n derbyn gofal mewn ysbytai. 

Yn ôl adroddiad newydd gan y Comisynydd, rhaid i blant sy'n treulio amser mewn ysbyty barhau i dderbyn addysg.

Ond mae hi'n rhybuddio bod plant yng Nghymru yn wynebu anghysondebau yn y ddarpariaeth,  sy'n arwain at rai yn cael llai o gyfleoedd i ddysgu nag eraill, a rhai'n cael dim addysg o gwbl.

Mae Rocio Cifuentes yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod pob plentyn sy’n cael gofal iechyd parhaus fel claf mewnol yn cael cynnig addysg llawn amser. 

Dywedodd 93% o weithwyr gofal iechyd mewn arolwg bod rhai plant ar eu colled yn addysgiadol tra roedden nhw mewn lleoliad gofal iechyd.

Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc dros 16 oed, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a phlant sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwahaniaethau

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod anghysonderau yn y modd y mae'r math yma o addysg yn cael ei ariannu ar draws Cymru. 

Gallai hyn arwain at rai plant yn derbyn mwy o addysg nag eraill. 

Mae ymatebion awdurdodau lleol i arolwg y Comisiynydd yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn yr oriau addysg y mae pob awdurdod yn ariannu. 

Roedd yr oriau hyn yn amrywio o 5 i 20 awr yr wythnos ledled Cymru. 

Dywedodd y Comisynydd :"Yr hyn a welwn o'n hymchwil yw gwerth dysgu i blant a phobl ifanc sy'n derbyn triniaeth. Nid mater o gadw i fyny â gwaith ysgol yn unig yw hyn; mae hefyd yn ymwneud â llawenydd dysgu, ymdeimlad o normalrwydd, a chysylltu ag eraill. 

"Mae yna amrywiaeth enfawr yn yr oriau y mae awdurdodau lleol yn dweud y byddan nhw'n eu hariannu, a gwahaniaethau ar draws Cymru yn y trefniadau ariannu rhwng awdurdodau a darparwyr. 

“Beth mae hyn yn ei olygu yw y gallai fod gennych chi un plentyn sy'n cael yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw, a phlentyn mewn amgylchiadau tebyg mewn rhan wahanol o Gymru sydd ddim yn derbyn yr addysg.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu dyletswyddau awdurdodau lleol yn y maes hwn i wneud yn siŵr bod gan bob plentyn sy'n derbyn addysg mewn lleoliad iechyd yn cael cynnig addysgol llawn amser, a bod trefniadau ariannu yn gyson ledled Cymru ac yn gweithio’n effeithiol i blant.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru bod canllawiau ar addysg i ddisgyblion tu allan i ddosbarthiadau ffurfiol yn cael eu cyhoeddi i gynghorua lleol, fydd yn cynnwys addysg i blant mewn ysbytai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.