Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law trwm i siroedd y de

17/11/2023
Glaw trwm

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhannau o dde Cymru. 

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 0:00 dydd Sadwrn tan 10:00 ddydd Sadwrn. 

Gall y tywydd achosi oedi  ar wasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser. 

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau yn debygol.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai rhai ardaloedd yn ne-orllewin Cymru brofi cawodydd trymion gyda hyd at 40mm o law yn disgyn, gan achosi amodau gyrru gwael a rhai heolydd i gau.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol: 

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-Nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Pen y bont ar Ogwr
  • Powys
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyddion
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.