Aelod Seneddol Ynys Môn 'am gydweithredu'n llawn' ag ymchwiliad i'w hymddygiad
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn dweud y bydd hi'n "cydweithredu'n llawn" ag ymchwiliad Seneddol i'w hymddygiad.
Mae Comisiynydd Safonau Ty'r Cyffredin wedi lansio ymchwiliad wedi i Virginia Crosbie fynd i ddigwyddiad cymdeithasol yn ystod cyfnod cyfyngiadau Covid-19.
Mae Ms Crosbie dan amheuaeth o fod wedi ymddwyn mewn modd a wnaeth achosi “niwed sylweddol i enw da” Tŷ’r Cyffredin yn sgil y digwyddiad ar Rhagfyr 8, 2020.
Heddiw dywedodd Ms Crosbie:"Mi fyddaf wrth gwrs yn cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad yma.
"Fodd bynnag, hoffwn gadarnhau fod Heddlu'r Met wedi cysylltu a mi ym mis Hydref.
"Yn dilyn ymchwiliad, dywedodd yr heddlu wrthyf na fyddwn ni'n derbyn Rhybudd Cosb yn sgil honiadau fod rheolau Covid wedi eu torri mewn digwyddiad lle roeddwn i'n bresennol ar Rhagfyr 8, 2020."
Adeg y digwyddiad, roedd Virginia Crosbie yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i annog pobol i beidio cymdeithasu heb fod angen.
Y Comisiynydd fydd yn penderfynu a wnaeth Ms Crosbie dorri unrhyw rheolau neu beidio.
Yn gynharach eleni, ymddiheurodd Ms Crosbie am fynd i’r digwyddiad, wedi i wefan Guido Fawkes honni bod hi wedi trefnu’r digwyddiad ar gyfer ei phenblwydd ar y cyd gyda’r Farwnes Jenkin.
Dywedodd Virginia Crosbie ei bod hi wedi mynd i’r digwyddiad ond nad oedd hi wedi gyrru unrhyw wahoddiadau at unrhyw un.
“Hoffwn nodi’r ffeithiau am adroddiadau am ddigwyddiad a gafodd ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2020,” meddai mewn datganiad ar y pryd.
“Ni anfonais wahoddiadau ar gyfer y digwyddiad. Mi es i’r digwyddiad am gyfnod byr, ond ni wnes i yfed a doeddwn i ddim yn dathlu fy mhen-blwydd.”