Pryderon am effeithiau ‘niweidiol’ ar bobl hŷn ar ôl i gannoedd o fanciau gau eu drysau
Mae pryderon y gallai toriadau i wasanaethau bancio ar draws Cymru gael effaith ‘niweidiol’ ar bobl hŷn.
Mae 348 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers 2015, gan adael 211 sydd yn dal i weithredu.
Fe wnaeth y Swyddfa Bost gyhoeddi'r llynedd y byddai saith o hybiau bancio yn cael eu sefydlu ar draws Gymru, ond nid yw’r rhai yn Abergele, Abertyleri, Prestatyn, Porthcawl a’r Trallwng wedi agor eto.
Daeth yr cyhoeddiad wythnos ddiwethaf y byddai banc HSBC hefyd yn cau eu llinell gymorth iaith Gymraeg i gwsmeriaid dros y ffôn.
Mae’r elusen Age Cymru yn galw ar y diwydiant i ddiogelu gwasanaethau bancio ar gyfer yr henoed.
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru, bod y newidiadau yn effeithio ar "allu pobl hŷn i gael mynediad i'w cyllid personol."
Mae’r elusen yn adrodd fod rhai pobl yn troi at eraill i’w helpu i reoli eu harian, sydd yn cael effaith ar breifatrwydd ac annibyniaeth unigolion ac yn gadael pobl hŷn yn agored i weithgareddau troseddol.
Fe allai cau gwasanaethau wyneb-yn-wyneb wneud pobl hŷn yn fwy bregus i sgamwyr yn ogystal, yn ôl Age Cymru, gan ei bod hi’n anoddach cael cyngor mewn cangen bellach.
Gyda rhagor o ganghennau yn cau, mae trafnidiaeth gyhoeddus "annibynadwy" hefyd yn gallu achosi trafferthion i rai pobl medd yr elusen.
'Poenus o araf'
Dywedodd Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru: “Gyda chymaint o ganghennau yn cau a hynny yn digwydd mor gyflym, mae Age Cymru yn bryderus am yr effaith niweidiol mae hyn yn ei gael ar allu nifer o bobl hŷn i gael mynediad i’w cyllid personol.
“Mae hwn yn hynod o bwysig i’r bobl hŷn sydd ddim ar-lein pan fod bron i dreuan sydd yn 75 oed neu’n hŷn yng Nghymru wedi’u heithrio’n ddigidol.
“Dylem weld gwasanaethau bancio fel gwasanaeth hanfodol fel dŵr a thrydan. Dylai banciau ymgynghori â chymunedau lleol pan fyddant yn bwriadu cau cangen ac amlinellu'r dewisiadau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith.
“Rydym yn gwybod bod rhai banciau wedi trafod rhannu adeiladau i arbed costau mewn sawl tref yng Nghymru, ond mae’r datblygiad wedi bod yn boenus o araf ac nid yw’n agos at ddal i fyny â’r rhaglen gau."