Newyddion S4C

Llys yn clywed bod dosbarthwr parseli wedi ei lofruddio ar ôl i ddyn ddwyn ei fan

15/11/2023
Mark

Mae llys wedi clywed sut y bu i ddosbarthwr parseli gael ei lofruddio yng Nghaerdydd gan ddyn oedd wedi dwyn ei fan. 

Mae  Christopher Elgifari, 31 oed, o Gwrt yr Esgid, Aberdâr, wedi’i gyhuddo o lofruddio Mark Lang, dosbarthwr parseli o ardal Cyncoed yn y ddinas.

Cafodd Mr Lang, 54 oed, ei lusgo o dan ei fan ei hun ar Ffordd y Gogledd, Caerdydd, ar 28 Mawrth eleni.

Bu farw Mr Lang yn Ybsyty Athrofaol Cymru 18 diwrnod yn ddiweddarach. 

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher fod Mr Elgifari wedi gyrru'n fwriadol at y dosbarthwr parseli. 

Dywedodd David Elias KC ar ran yr erlyniad: “Tua 12:40, fe barciodd ar Rodfa Laytonia i ddosbarthu parsel.

“Dim ond ychydig eiliadau oedd am fod yno, felly fe adawodd ei fan heb ei chloi gyda’r allwedd i mewn.

“Wrth iddo sefyll wrth ddrws y tŷ i ddosbarthu (y parsel), rhedodd y diffynnydd hwn at y fan a neidio i mewn.

“Gyrrodd i ffwrdd yn gyflym i lawr Laytonia Avenue wedi'i erlid gan Mark Lang.

“Trodd y diffynnydd oedd yn gyrru’r fan o gwmpas ar bendraw'r  ffordd, gan wrthdaro â wal gardd, cyn gyrru’n ôl i gyfeiriad Mark Lang."

Roedd Mr Lang yn sefyll yng nghanol y ffordd pan gafodd ei daro gan y fan, dywedodd wrth y llys. 

Y gred yw bod Mr Elgifari wedi parhau i yrru'r fan am 700 metr, gyda Mr Lang yn sownd o dan y cerbyd.

Mae Christopher Eligfari wedi pledio'n euog i ddynladdiad a dwyn ond fe blediodd yn ddieuog i lofruddiaeth a lladrata.

Mae’r achos yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.