Cneifwyr defaid o Fôn yn codi dros £60,000 ar gyfer elusennau
Mae ffermwyr o Ynys Môn a fu'n cystadlu mewn gornest cneifio defaid wedi codi mwy na £61,000 ar gyfer elusennau.
Cynhaliodd y Cylch Cneifio eu diwrnod cneifio defaid blynyddol yn nhafarn y Bull yn Llannerch-y-medd, i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi.
Yn ogystal â'r gystadleuaeth cneifio defaid, cafodd ocsiwn elusennol ei chynnal a gododd fwy na £43,800.
Mae'r grŵp wedi bod yn cynnal digwyddiadau cneifio defaid ers dros ddau ddegawd ac wedi codi arian i nifer o elusennau lleol.
Bydd y £61,510.40 yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
"Syfrdanu"
Dywedodd Alun Jones, Cadeirydd y Cylch Cneifio : “Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ers COVID-19 y llynedd i gofio am un o aelodau gwreiddiol y grŵp ac roedd pob un ohonom wedi'n syfrdanu ein bod wedi codi cymaint o arian. Doedden ni fyth yn meddwl y byddem ni'n codi cymaint o arian â hynny eto, ond cawsom ein syfrdanu eleni wrth gyfrif cyfanswm yr arian a godwyd, a oedd yn fwy na chyfanswm y blynyddoedd blaenorol.
“Gwnaethom benderfynu codi arian ar gyfer dwy elusen eleni am eu bod yn agos at galonnau ein haelodau. Mae ambell aelod o'r grŵp wedi elwa ar ofal gan Hosbis Dewi Sant yn ddiweddar, felly gwnaethom benderfynu cefnogi'r elusen ymhellach.
Dros y blynyddoedd, mae'r grŵp wedi casglu bron £130,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hanfodol iawn i ni yn Ynys Môn. Rydyn ni'n gymuned amaethyddol, ac mae'n elusen sy'n agos at galonnau ffermwyr. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig, ac mae pawb yn barod iawn i gefnogi'r elusen.”
Dywedodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Unwaith eto, mae'r Cylch Cneifio wedi rhagori ar ddisgwyliadau i godi swm anhygoel o arian yn ystod ei digwyddiad cneifio defaid blynyddol. Ni allaf gredu y gall sefydliad cymunedol bach godi'r swm anhygoel hwn o arian mewn cyn lleied o amser.
“Diolch yn fawr iawn i bob un o'r unigolion a'r busnesau a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn a byddwn yn sicrhau bod Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i achub bywydau ledled Cymru.”