Newyddion S4C

Carchar i aelod o’r Wladwraieth Islamaidd oedd wedi ei amau o fod yn un o'r ‘IS Beatles’

13/11/2023
Aine Davis - IS (PA)

Mae Prydeiniwr oedd wedi ei amau o fod yn aelod o'r ‘IS Beatles’ wedi ei garcharu am droseddau terfysgol.

Cafodd Aine Leslie Davis, 39 oed, ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl pledio’n euog i fod ag arf yn ei feddiant yn groes i'r Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Fe'i cafwyd yn euog, yn ogystal â dau gyhuddiad o ariannu terfysgaeth, wedi’r Llys Apêl penderfynu peidio â gollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Roedd y troseddau ariannu terfysgaeth yn dyddio’n ôl i 2013 a 2014, yn dilyn ymgais aflwyddiannus gan ei gyn-wraig i anfon 20,000 Ewro iddo tra yr oedd yn Syria.

Cafodd Davis ei estraddodi o Dwrci i’r Deyrnas Unedig ym mis Awst 2022 ar ôl treulio saith mlynedd a hanner yn y carchar yno, am fod yn aelod o'r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae Davis wedi gwadu ei gysylltiad â’r gell 'IS Beatles' erioed – y llysenw a gafodd ei roi ar grŵp o bedwar aelod IS oedd yn hanu o Brydain.

Roedd y grŵp yn adnabyddus am arteithio a thorri pennau gwystlon o’r gorllewin yn Syria.

Mae dau aelod o’r 'IS Beatles' sydd yn ddinasyddion Prydeinig, El Shafee Elsheikh ac Alexanda Kotey, yn y carchar yn yr UDA ar ôl derbyn dedfrydau oes.

Fe gafodd y trydydd aelod o'r pedwar, Mohammed Emwazi, oedd yn cael ei adnabod fel 'Jihadi John', ei ladd mewn cyrch gan dronau yn 2015.

Fe wnaeth tîm cyfreithiol Davis ddadlau fod yr awdurdodau yn America wedi derbyn nad Davis oedd y pedwerydd aelod o’r ‘IS Beatles’.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.