Cau ffordd yn y cymoedd i drwsio difrod ar ôl tân ar fynydd
Bydd ffordd sy'n croesi mynydd yn y cymoedd ar gau dros nos am bron i wythnos er mwyn trwsio difrod ar ôl i dân ledaenu yno'r llynedd.
Bydd yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos ar gau dros nos o 13-17 Tachwedd (21:00 tan 6:00), ar gyfer y gwaith meddai Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Fe achosodd y tân ym mis Awst 2022 ddifrod mawr i rwydi gwifren, rhwydi plastig a ffensys uwchben y ffordd a oedd yn atal cerrig rhag syrthio islaw.
Bydd gweithgaredd ar safle hefyd yn cynnwys cael gwared ar gerrig mawr sydd eisoes wedi syrthio oddi ar wyneb y graig.
Fe wnaeth y ffordd ailagor ar ôl i waith brys gael ei wneud, ac mae goleuadau traffig dros dro wedi eu gosod yno er mwyn diogelu gyrwyr.
Mae’r gwaith yn gofyn am gau’r ffordd yn llawn er mwyn sicrhau diogelwch, ac mae wedi’i amserlennu yn ystod y nos i leihau aflonyddwch.
Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 6:00 fore ddydd Sadwrn, Tachwedd 18 os yw'r tywydd yn ffafriol.
Yn y cyfamser fe fydd gyrwyr yn gorfod defnyddio ffyrdd ar hyd yr A4061, A465, A4059, A470, A4058 a’r A4061.