Newyddion S4C

Covid-19: Amrywiolyn Delta 60% yn fwy trosglwyddadwy nag Alffa

Sky News 11/06/2021
Covid-19

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi bod amrywiolyn Delta yn 60% fwy trosglwyddadwy na'r amrywiolyn Alffa.

Mae bron i 90% o achosion newydd o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig bellach o'r amrywiolyn Delta, sy'n golygu mai dyma'r amrywiolyn mwyaf amlwg ym Mhrydain.

Amrywiolyn Alffa, a gafodd ei adnabod gyntaf yn ardal Caint, oedd yr amrywiolyn mwyaf amlwg cyn hyn. 

Yn ôl Sky News, mae'r brechlyn Covid-19 hefyd yn llai effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn Delta, a gafodd ei ddarganfod yn gyntaf yn India. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.