Actor Home and Away Johnny Ruffo wedi marw yn 35 oed
Mae actor Home and Away Johnny Ruffo wedi marw yn 35 oed chwe blynedd ar ôl cael diagnosis o ganser yr ymennydd.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel Chris Harrington yn yr opera sebon poblogaidd o Awstralia yn 2013.
Roedd hynny ddwy flynedd ar ôl iddo ymddangos yn rownd derfynol The X Factor yn Awstralia.
Dywedodd ei dudalen Instagram swyddogol: “Gyda chalon drom heddiw bu’n rhaid i ni ffarwelio â Johnny annwyl.
“Fe aeth Johnny wedi ei amgylchynu gyda’i bartner Tahnee a’i deulu, yn heddychlon gyda chefnogaeth rhai nyrsys a meddygon anhygoel.”
Dywedodd y datganiad fod Ruffo yn “fachgen dawnus iawn, swynol ac weithiau yn ddigywilydd”.
'Brwydr'
Cyhoeddodd Ruffo ei fod wedi cael diagnosis o ganser yr ymennydd ym mis Awst 2017 a’i fod yn dechrau “triniaeth ddwys”.
“Roedd Johnny yn benderfynol iawn o ddod drwyddi,” meddai’r datganiad.
“Brwydrodd yr holl ffordd hyd y diwedd ac ymladd mor galed ag y gallai.
“Roedd yn enaid mor brydferth gyda chymaint mwy i'w roi.
“Rydyn ni i gyd yn dy garu di Johnny a byddwn yn cofio’r holl lawenydd a ddaeth i’n bywydau diolch i ti. Gorffwys mewn hedd.”