Angen gwella uned iechyd meddwl arbenigol 'ar unwaith'
Mae angen gwella uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty'r Tri Chwm yng Nglynebwy 'ar unwaith' yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae'r ysbyty yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Ward Cedar Parc yn yr ysbyty yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i bobl dros 65 oed, a cafodd yr arolwg ei gynnal dros dri diwrnod olynol ym mis Awst eleni.
Dywed yr adroddiad eu bod yn siomedig fod rhai materion, gan gynnwys trefniadau llywodraethu a diogelwch cleifion, yn parhau heb eu datrys ers yr arolygiad blaenorol yn 2018.
Yn ogystal, nid oedd arolygwyr wedi cael sicrwydd bod iechyd, diogelwch a lles y cleifion, staff ac ymwelwyr yn cael eu "hyrwyddo a'u hamddiffyn".
Ychwanegodd arolygwyr hefyd nad oedd risgiau posibl o niwed yn cael eu nodi na'u monitro, a bod angen i'r bwrdd iechyd "weithredu ar unwaith" er mwyn mynd i'r afael ag amryw o faterion.
'Diffyg cyfathrebu cyffredinol'
Yn ôl arolygwyr, roedd clychau galw yn ystafelloedd gwely'r cleifion naill ai ochr arall yr ystafell o welyau'r cleifion, neu ddim mewn man lle y gallai'r cleifion eu cyrraedd.
Aeth yr adroddiad yn ei flaen i ddweud bod 'diffyg cyfathrebu cyffredinol' ymysg uwch-aelodau o'r staff.
Fe wnaeth arolygwyr gydnabod fod staff yn gyffredinol yn trin cleifion gyda pharch, gyda staff nyrsio yn ymwybodol o anghenion unigol y cleifion.
Dywedon nhw hefyd bod lefelau staffio yn briodol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion.
Ond roedd rhai aelodau yn teimlo nad oedd digon o staff er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw gan gleifion ar y ward.
Yn ogystal, cafodd pryderon eu mynegi am breifatrwydd ac urddas cleifion, gan gynnwys "cyfleusterau golchi dwylo annigonol ar y ward a diffyg toiledau ar wahân".
Cafodd y materion yma hefyd eu nodi mewn arolwg o'r ward yn 2018, a dywedodd yr arolygwyr eu bod yn "siomedig gweld materion tebyg o hyd".
'Meysydd i'w gwella ar unwaith'
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: "Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn Ysbyty'r Tri Chwm.
"Nododd ein harolwg feysydd i'w gwella ar unwaith ac mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gynnal mesurau cadarn i sicrhau diogelwch y cleifion ac atgyfnerthu'r systemau arwain a rheoli yn yr ysbyty.
"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ar ei gynlluniau ar gyfer gwella."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Braf oedd clywed bod arolygwyr wedi arsylwi cleifion yn derbyn gofal a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol. Fe wnaethant hefyd arsylwi rhyngweithiadau cwrtais, ymroddedig a pharchus rhwng staff a chleifion, a bod perthnasoedd proffesiynol da wedi'u datblygu i gefnogi iechyd a lles claf.
"Yn ystod yr arolygiad, fe wnaeth AGIC nodi rhai meysydd er pryder a oedd yn gofyn am weithredu ar frys. Er bod y rhan fwyaf o'r pryderon hyn eisoes wedi cael eu datrys, rydym hefyd wedi datblygu cynllun cynhwysfawr i ganolbwyntio ar y meysydd eraill a argymhellir i'w datblygu.
"Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau'n barhaus i ddarparu'r safonau gofal a'r profiad gorau posibl i'n cleifion, ac rydym yn adeiladu rhaglen datblygiad i wella ansawdd ein gwasanaethau Iechyd Meddwl ymhellach."