Newyddion S4C

Canolfan dechnoleg amgen ger Machynlleth i gau i ymwelwyr gan roi 14 swydd yn y fantol

09/11/2023
CAD

Fe fydd Canolfan y Dechnoleg Amgen, CyDA, ym Mhowys yn cau i ymwelwyr dydd gan roi 14 o swyddi yn fantol. 

Mewn datganiad ar wefan y sefydliad, dywedodd cyd-Brif Weithredwyr CyDA, Eileen Kinsman a Paul Booth y bydd y ganolfan yn cau i ymwelwyr ar ddydd Iau 9 Tachwedd. 

Mae CyDA, yn elusen addysgol sy’n i ymchwilio i "atebion cadarnhaol i newid hinsawdd."

Dywedodd y prif weithredwyr: Yn anffodus, mae 14 o swyddi mewn perygl yn CyDA ac mae ymgynghoriad llawn yn digwydd dros o leiaf 14 diwrnod. 

“Mae lles staff o’r pwys mwyaf, ac rydym yn darparu cymorth arbenigol i staff yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Bydd y ganolfan yn parhau i fod ar agor i fyfyrwyr, ymweliadau grŵp wedi’u trefnu ymlaen llaw, digwyddiadau, a chyrsiau.

Daw’r penderfyniad i gau’r ganolfan yn sgil "cyfnod heriol i’r sector eluesennol yn DU" meddai’r Prif Weithredwyr. 

“Mae’r cyfuniad o gostau rhedeg cynyddol, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr i Gymru ar ôl y pandemig ac oedi o ran cyllid wedi ei gwneud yn economaidd anhyfyw inni barhau i weithredu’r ganolfan ymwelwyr yn ei model presennol”

“Bydd cau’r ganolfan ymwelwyr bresennol i ymwelwyr dydd, fodd bynnag, yn caniatáu i CyDA ganolbwyntio ar gryfhau agweddau economaidd hyfyw ar ei gweithrediadau “gan ein helpu ni i ddarparu ar ein cenhadaeth o greu a rhannu atebion ymarferol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.”

Er hyn, mae CyDA yn parhau i ymrwymo i’w chynlluniau ailddatblygu ac yn gobiethio ailagor i ymwelwyr dydd unwaith y bydd cronfeydd cyllid wedi‘i sichrau, medd yr elusen.

“Mae CyDA yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i’w chynlluniau ailddatblygu ehangach arfaethedig, sy’n cynnwys gwelliannau sylweddol i’r cynnig i ymwelwyr. 

“Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a ffynonellau eraill. 

“Unwaith y bydd wedi’i sicrhau, bydd y cronfeydd hyn yn sicrhau y gall CyDA ailagor i ymwelwyr dydd.

“Yn y cyfamser, ni effeithir ar Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, y ddarpariaeth o gyrsiau byrion, a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Ddigarbon.”

'Pryderu'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinwyr Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys:

"Rydym yn naturiol yn pryderu am y cyhoeddiad a'r effaith bosibl ar unigolion a'r gymuned ehangach. Cyfarfu'r ddau ohonom â Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phrif Weithredwr CAT ddoe i gynnig ein cefnogaeth lawn. 

"Mae CAT yn ased i Ganolbarth Cymru a'i heconomi - a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn.

"O ran Bargen Twf Canolbarth Cymru, rydym yn gweithio i ddeall y sefyllfa a'r effaith a ragwelir ar y cynnig am gyllid. 

"Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw brosiect wedi derbyn cyllid gan y Cynllun Twf oherwydd bod y prosiectau'n dal i weithio ar eu hachosion busnes. 

"Mae dilyn canllawiau'r Llywodraeth yn gadarn yn hanfodol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n ddoeth mewn cynlluniau sy'n gynaliadwy yn y tymor hir."

Llun: Canolfan y Dechnoleg Amgen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.