Newyddion S4C

Colli Josh: 'Mor bwysig i ni siarad fel grŵp o ffrindiau a dynion ifanc'

08/11/2023

Colli Josh: 'Mor bwysig i ni siarad fel grŵp o ffrindiau a dynion ifanc'

"Oedd o mor bwysig i ni siarad fel grŵp o ffrindia', ond hefyd fel dynion ifanc."

Mae ffrindiau Joshua Lloyd Roberts, fu farw ger Caernarfon ym mis Mehefin eleni, yn annog dynion ifanc i siarad am eu teimladau a'u hiechyd meddwl. 

Bu farw'r myfyriwr 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ar 2 Mehefin.

Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Bydd tîm pêl-droed y Gym Gym, sef y Gymdeithas Gymraeg i fyfyrwyr yng Nghaerdydd, yn gwneud her Movember ac yn rhedeg 456 milltir i godi arian at elusen '2wish' er cof amdano.  

Mae Movember yn fis i godi ymwybyddiaeth am iechyd corfforol a meddyliol dynion. 

Image
Josh Roberts
Bydd y tîm yn rhedeg 456 milltir er cof am Josh. 

Aelodau pwyllgor pêl-droed y Gym Gym eleni ydi Huw Griffith, Osian Tudur, Elis Edwards ac Eben Pierce. 

Wrth egluro'r rheswm pam bod y tîm yn rhedeg y pellter penodol o 456 milltir, dywedodd Huw: "Dyna di’r pellter o Gaernarfon i Goodison Park i lawr i Gaerdydd a wedyn nôl i Gaernarfon so’r tri peth mwya’ pwysig i Josh so Caernarfon, Goodison a wedyn pêl-droed y Gym Gym yn fama. 

"O’n i’n meddwl bod o’n bellter iawn ac addas i ni neud a dwi’n meddwl bod o’n syniad da hefyd."

Mae gan Huw, Osian, Elis ac Eben atgofion arbennig o Josh fel ffrind, ac er bod y misoedd diwethaf wedi bod yn heriol iddynt, maent yn awyddus i annog dynion i siarad am eu teimladau a'u hiechyd meddwl. 

"Efo’r pwnc o iechyd meddwl, dwi’n meddwl oedd o mor bwysig i ni siarad fath â grŵp o ffrindia, ond hefyd jyst fel grŵp o oedolion a dynion ifanc, yn amlwg mae o’n gallu bod yn bwnc mor sensitif ag anodd i agor fyny," meddai Huw.  

"Ond dwi’n meddwl heb allu neud hynna efo'n gilydd, fysa bob dim wedi mynd lot gwaeth a lot anoddach so ti methu rili edrych lawr ar faint o bwysig ydi o i siarad."

Image
Josh Roberts
Caernarfon, Goodison Park a Chaerdydd oedd y 'tri lle mwyaf pwysig' i Josh.

Ychwanegodd Osian: "Ma’ ‘na definite stigma bron tu ôl problemau iechyd meddwl hogia’ ond ma’ ni’n siarad efo’n gilydd wedi helpu ni sylwi ma’n oce i ddim bod yn iawn a drwy hynna, ‘dan ni gyd ‘di bod yn help i’n gilydd a teimlo lot well yn diwadd." 

Yn ôl Eben, mae'r gefnogaeth gan holl aelodau'r Gym Gym wedi bod yn gymorth mawr i bawb. 

"Ma’ pawb ‘di dod mor agos achos be nath ddigwydd a mae o ‘di bod mor galonogol cael gymaint o gefnogaeth tu ôl i ni a ma’ pawb, does 'na neb yn ofn siarad o gwbl. Ma’ pawb jyst yn neud o. A does na neb yn beirniadu chwaith. 

"Dwi’n meddwl dyna ‘di’r broblem, ma’ pobl yn meddwl bo’ nhw’n mynd i gael eu beirniadu ond dydi o ddim, dydi o heb ddigwydd o gwbl, ma’ pawb ‘di bod mor dda efo’i gilydd."

Dywedodd Elis: "Ma’ ‘di dangos faint o bwysig ‘dio i siarad efo’n gilydd a ma’ ‘di neud o’n haws rywsut i ni gyd gallu siarad efo’n gilydd, oedd o’m yn digwydd gymaint o blaen ond ar ôl hynna, ma’ wedi digwydd lot haws."

Mae'r tîm wedi penderfynu codi arian at elusen 2wish, a hynny am reswm pwysig iawn. 

"Natho ni ddewis 2wish oherwydd bod o'n elusen sydd wedi cefnogi lot o ni yn bersonol ers i be nath ddigwydd ddigwydd. Dwi'n meddwl bod o'n naturiol i ddewis o yn amlwg i fynd efo Movember sydd yn cysylltu efo iechyd meddwl a bod marwolaethau sydyn i bobl ifanc yn gallu achosi problemau iechyd meddwl," meddai Huw. 

"Oedd y ddau yn mynd yn dda efo’i gilydd a dwi’n meddwl oedd o’n addas i ni ddewis 2wish achos y gwaith gwych ma’ nhw ‘di neud efo lot o aelodau o’r tîm."

Image
Josh Roberts
Roedd Josh 'wrth ei fodd' yng Nghaerdydd. 

Roedd Josh yn ffrind arbennig i Huw, Osian, Eben, Elis a'r gymdeithas ehangach yng Nghaerdydd a Chaernarfon. 

"O’dd o efo calon cynnes, calon clên a jyst o’dd o’n bleser bod rownd o," meddai Huw. 

"Bob dim sy’n dod i meddwl fi ydi pa mor ddoniol o’dd o, o’dd o bob tro yn neud i pawb chwerthin – hynna oedd o isio neud," meddai Osian. 

Dywedodd Eben: "O’dd o’n neud rwbeth i rywun. O’dd o wastad yn rhoi bob dim fewn i be bynnag o’dd o’n neud."

Ychwanegodd Elis: "O’dd o bob tro yna ag oedd o bob tro yn cael hwyl efo chdi, ag oedd o bob tro isio deud helo. "

Image
Huw a Josh
Roedd Josh yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Byddai Josh wedi bod 'wrth ei fodd' yn gwneud yr her efo'r criw. 

"O’dd o’n rhoi bob dim fewn i be’ bynnag o’dd o’n neud so dwi’n meddwl heb os, fo fysa’r cynta’ i orffen y 400 milltir ‘na," meddai Eben.

Ychwanegodd Elis: "Oedd o’n joio tyfu mwstásh am fis, dwi’n gwbo ‘sa fo efo mwstásh da iawn. A ‘sa Josh yn un o’r rei cynta’ i fynd allan i redeg a mynd amdani i gyd."

Dywedodd Osian: "'Sa fo wrth ei fodd efo fo. Fel ma’ Huw ‘di deud, y tri peth agosa idda fo oedd Caernarfon wedyn Goodison Park a wedyn lawr yng Nghaerdydd – o’dd o wrth ei fodd yma ag oedd o wrth ei fodd efo her."

Dywedodd Huw: "Sbio nôl ar yr ail flwyddyn pan o’dd y ddau ohona ni’n byw efo’n gilydd, o’dda ni bob tro’n sôn am ddechra mynd am runs ond natho ni byth neud so dwi’n meddwl ‘sa fo’n eithaf hapus bo’ fi ‘di neud yr addewid ‘ma rŵan bo’ fi am ddechra’ rhedeg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.