Joe Lycett yn codi £50,000 i elusen wedi sylwadau Suella Braverman am y digartref
Mae'r digrifwr Joe Lycett wedi cyrraedd ei darged codi arian o £50,000 ar gyfer elusen ddigartrefedd yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman.
Fe lansiodd y digrifwr 35 oed yr ymgyrch ar gyfer elusen Crisis UK ar ôl i Ms Braverman honni bod cysgu ar y stryd weithiau yn "ffordd o fyw” yr oedd rhai'n ei ddewis, tra’n awgrymu ei bod am osod cyfyngiadau ar y defnydd o bebyll i'r digartref ar strydoedd cyhoeddus.
Wrth ymateb i’r sylwadau ar Instagram, wrth annerch yr Ysgrifennydd Cartref fel ei “hen ffrind”, dywedodd Lycett: “Roeddwn i bob amser yn meddwl bod dewisiadau ffordd o fyw yn bethau fel trowsus cargo, pysgota, ac addurno’ch ystafell ymolchi gyda phowlen o potpourri.”
Ochr yn ochr â delwedd o potpourri, cyhoeddodd Lycett ei ymgais i godi £ 50,000 ar gyfer yr elusen ddigartref Crisis UK.
Llwyddodd i gyrraedd y targed hwnnw fore dydd Mawrth.
Potpourri
Ar Instagram ysgrifennodd: “Deffrais y bore yma i weld bod llun o bowlen o potpourri a bostiais ychydig dros ddau ddiwrnod yn ôl wedi codi £50,000 ar gyfer Crisis. Diolch enfawr i bawb a gyfrannodd am eu haelioni.
“Wrth gwrs mae fy niolch pennaf i Suella: heb eich dewis o ffordd o fyw, o fod yn ddideimlad a chreulon tuag at y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ni fyddai dim o hyn wedi digwydd.”
Adroddodd y Financial Times fod Ms Braverman wedi cynnig sefydlu trosedd sifil i atal elusennau rhag rhoi pebyll i bobl ddigartref.
Wrth rannu dolen i’r erthygl mewn post ar X, dywedodd Ms Braverman: “Mae pobol Prydain yn llawn tosturi. Byddwn bob amser yn cefnogi'r rhai sy'n wirioneddol ddigartref.
“Ond ni allwn ganiatáu i’n strydoedd gael eu meddiannu gan resi o bebyll gan bobl, llawer ohonynt o dramor, yn byw ar y strydoedd fel ffordd o fyw allan o ddewis.
“Oni bai ein bod yn camu i mewn nawr i atal hyn, bydd dinasoedd Prydain yn ymdebygu i lefydd yn yr Unol Daleithiau fel San Francisco a Los Angeles, lle mae polisïau gwan wedi arwain at ffrwydrad o droseddu, cymryd cyffuriau, a budreddi.”
Llun: Channel 4