Rhybudd llifogydd mewn grym ar gyfer canolbarth a de orllewin Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer ardaloedd yng nghanolbarth a de orllewin Cymru.
Daw wedi rhybuddion am law trwm yn dilyn Storm Ciarán.
Mae rhybudd llifogydd coch, 'angen gweithredu ar frys' mewn grym ar gyfer afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod.
Mae rhybudd llifogydd 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylchoedd afonydd yn ne Sir Benfro a rhannau isaf dalgylch afon Teifi yng Ngheredigion.
Nos Sadwrn fe gyhoeddwyd rhybuddion melyn ar gyfer Nant-y-fendrod a Nant Brân yn ardal Abertawe ac afon Gwy ym Mhowys.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma.
Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.