Dyn i wynebu achos llys ar gyhuddiad o gynllwynio i herwgipio a llofruddio Holly Willoughby
Fe fydd swyddog diogelwch 36 oed yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf ar gyhuddiadau o geisio cynllwynio i lofruddio’r gyflwynwraig deledu Holly Willoughby.
Mae Gavin Plumb, o Essex, hefyd wedi ei gyhuddo o gynllwynio i'w herwgipio.
Fe wnaeth bledio'n ddieuog i’r cyhuddiadau yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Chelmsford ddydd Gwener.
Mae Mr Plumb wedi’i gyhuddo o gynllwynio ar-lein gyda dyn arall a chreu “cynllun manwl” i gyflawni’r troseddau.
Roedd disgwyl i'r dyn arall i gyrraedd y DU o’r Unol Daleithiau cyn i'r cynllwyn gael ei ddarganfod.
Fe fydd Gavin Plumb yn ymddangos o flaen y llys ar 24 Mehefin y flwyddyn nesaf.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.