Newyddion S4C

Lansio adolygiad fforensig i farwolaeth ysbïwr MI6 o Fôn

North Wales Live 10/06/2021
Arwydd New Scotland Yard, Heddlu'r Met, Llundain

Mae ditectifs wedi lansio adolygiad fforensig i farwolaeth ysbïwr MI6 a gafodd ei ddarganfod wedi'i gloi mewn bag.

Cadarnhaodd Heddlu'r Met eu bod yn asesu os oedd unrhyw unigolion eraill wedi chwarae rhan ym marwolaeth Gareth Williams, oedd yn 31 oed ac yn dod o'r Fali, Ynys Môn.

Cafodd corff noeth Mr Williams ei ddarganfod mewn bag North Face coch yn ei fflat yn Llundain yn 2010.

Yn 2013, daeth Heddlu'r Met i'r casgliad bod ei farwolaeth "mwy na thebyg yn ddamweiniol", a daeth yr achos i ben.

Ond, mae ei deulu'n amau ​​iddo gael ei lofruddio, gyda chrwner hefyd yn dweud ei fod wedi'i ladd yn anghyfreithlon yn ôl pob tebyg, meddai North Wales Live.

Ar ôl i wybodaeth fforensig newydd gael ei drafod mewn adroddiad gan The Sunday Times, cadarnhaodd yr heddlu y byddent yn edrych i weld os dylai adolygiad fforensig gael ei gynnal.

Mae'r adolygiad hwnnw bellach ar waith, yn ôl y llu.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.