Newyddion S4C

Cyhoeddi cynlluniau i ddenu gweithwyr 'i symud i Alban annibynnol'

03/11/2023
Shirley Ann Somerville - Annibyniaeth yr Alban

Mae disgwyl i Lywodraeth yr Alban ddatgelu cynlluniau newydd "i ganiatau mwy o bobl i fudo i Alban annibynnol". 

Wrth i boblogaeth yr Alban heneiddio, mae ei Llywodraeth yn poeni am ddyfodol yr economi a gwasanaethau cyhoeddus wrth i nifer y bobol o oedran gweithio leihau.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Shirley-Anne Somerville,  y gobaith ydy creu asiantaethau newydd a system fisa a fyddai'n helpu i ddenu pobl i'r wlad.

“Mae pobl sy’n dod i fyw a gweithio yn yr Alban yn hanfodol i ddyfodol ein gwlad – nid yn unig ar gyfer y cyfraniad y mae nhw’n gwneud i’n diwylliant a’n cymunedau, ond hefyd ar gyfer cefnogi twf economaidd a chynnal gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

Fe fydd Ms Somerville, y gweinidog annibyniaeth Jamie Hepburn a’r gweinidog mudo Emma Roddick yn cyhoeddi’r cynlluniau, ddydd Gwener. 

“Byddai’r cynigion yn y papur hwn, gan gynnwys llwybrau fisa newydd ac asiantaethau, yn cefnogi pobl ag ystod eang o sgiliau i wneud yr Alban yn gartref iddynt.

“Mae annibyniaeth yn hanfodol er mwyn cael y pwerau sydd eu hangen ar yr Alban i adeiladu system fudo sy’n gweithio i bob rhan o’n gwlad ac sydd ag urddas, tegwch a pharch yn greiddiol iddi."

Wrth feirniadu polisi Brexit y DU, dywedodd Ms Somerville: “Nid yw polisi Brexit Llywodraeth y DU a’i dulliau rheoli fudo a lloches yn adlewyrchu agweddau’r rhan fwyaf o bobl yr Alban a mae nhw'n niweidio ein heconomi.

“Mae angen i ni roi hwb i’n poblogaeth sy’n gweithio, nid achosi gostyngiad,” meddai.

Gyda mudo yn cael ei reoli yn San Steffan, mae’r pwnc eisoes yn destun dadleuol rhwng llywodraethau’r DU a’r Alban. 

Yn 2020, fe wnaeth cyn-brif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, alw am system fisa ar wahân i fynd i’r afael â materion demograffig.

Cafodd yr alwad ei gwrthod gan San Steffan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.